Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi cyllid i ffermwyr arbrofi

Ionawr 2025 | Cymru Wledig LPIP Rural Wales, O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi bod y rhaglen Cyllid Arbrofi yn dychwelyd, a bod modd i ffermwyr anfon ceisiadau am y grantiau rhwng 27 Ionawr a 17 Chwefror 2025. Amcan y cyllid yw cefnogi ffermwyr i geisio dulliau gwahanol o ffermio, amrywio’r hyn maent yn tyfu ac i weld beth allent wneud yn wahanol sydd yn gweithio iddynt hwythau ar eu ffermydd.

Mewn datganiad, dywedodd Menna Williams, arweinydd y prosiect:

“Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.

Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i’ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i’r afael â phroblemau ‘go iawn’ neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio’n ymarferol ar eich fferm.’’

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyd at £5,000 er mwyn cyllido treialon ac arbrofion ar eu ffermydd sy’n rhoi syniadau newydd ar waith. Pwysleisiodd Menna Williams nad ariannu offer newydd yw bwriad y prosiect, ond yn hytrach i alluogi ffermwyr gymharu gwahanol driniaethau neu systemau rheoli. Dywedodd:

“Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplu, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy’n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect.”

Mae yna feini prawf a gofynion penodol y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu hateb. Mae gofyn i brosiectau geisio gwella effeithlonrwydd cynhyrchu ac elw, tra hefyd yn gwarchod yr amgylchedd drwy ddilyn canllawiau cynaladwyedd. Rhaid bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a’r cynllun arfaethedig yn gallu cael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2026. Mae cyngor ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio ar sut i gwblhau’r ffurflen gais.

Bydd y rheini sy’n llwyddiannus yn rhannu eu canlyniadau a’u profiadau gyda ffermwyr eraill yng Nghymru drwy gynhyrchu adroddiad ar y cyd gydag aelod o dîm Cyswllt Ffermio a drwy fynychu digwyddiadau rhannu gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â fctryout@mentera.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This