Ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 cynhaliwyd gweithdy arbenigol gan Brifysgol Aberystwyth lle gwahoddwyd academyddion ac arbenigwyr o Wlad y Basg i drafod eu gwaith ym maes cynllunio iaith yn y gweithle.
Mae’r gweithdy yn un o gyfres o weithdai a chynadleddau sydd wedi eu trefnu Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis o’r brifysgol fel rhan o’u gwaith gyda Wavehill ar ffrwd Monitro, Gwerthuso a Dysgu Rhaglen ARFOR II. Bellach mae modd ffrydio’r cyfraniadau gan Dr Auxkin Galarraga, Pablo Superbiola, Leire Okaranza a Galder Lausen yn trafod gwahanol agweddau o gynllunio ieithyddol yn y gweithle, a’r modd mae sefydliadau, gan gynnwys mentrau cydweithredol a busnesau, yng Ngwlad y Basg yn arloesi yn rhyngwladol er mwyn defnyddio’r gweithle fel gofod i hyrwyddo iaith leiafrifol. Mae’r cyflwyniadau o werth i unrhyw un sydd â diddordeb ym maes polisi iaith yng Nghymru a thu hwnt, ac yn benodol i’r rheiny sydd a diddordeb yn sut i annog gweithdrefnau sy’n hwyluso’r Gymraeg yn y gweithle.
Dywedodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth:
‘Gwerth achos Gwlad y Basg, yw amlygu ystod o ymdrechion dros fwy na dau ddegawd i geisio hyrwyddo’r Fasgeg yn y gweithle yn sgil cydnabod pa mor arwyddocaol yw gweithleoedd i ddefnydd o iaith leiafrifol. Ymysg yr enghreifftiau o arfer da mae’r trefniadau i roi strwythur i gynlluniau iaith cyrff a chwmnïau er mwyn datblygu defnydd o’r iaith fel iaith gwasanaeth ac fel iaith gwaith, a phrosesau o gydnabod ansawdd trefniadau mewnol cwmnïau i hyrwyddo’r Fasgeg wedi’u harwain gan sefydliad sy’n hyrwyddo rheolaeth lefel uwch. O fentrau cydweithredol mawr a bach, ceir esiamplau o amrywiol gynlluniau i gefnogi’r Fasgeg, ac mae ystod o fentrau i hyrwyddo datblygiad cynllunio iaith mewn gweithleoedd, gan gynwys drwy wasanaethau ymgynghorol proffesiynol sy’n arbenigo mewn cynllunio iaith yn y gweithle. Nod y gweithdy oedd adlewyrchu elfennau o’r cyfoeth hwn sydd mor berthnasol i Gymru.’
Mae’r papur cefndir ar gyfer y gweithdy ar gael yma.
Gallwch hefyd wylio’r cyflwyniadau unigol drwy ddilyn y dolenni isod:
Dr Auxkin Galarraga – Y Model Cyfrifoldeb Ieithyddol Corfforaethol
Pablo Suberbiola – Aldahitz a Methodoloeg Eusle
Leire Okaranza – Profiad FAGOR
Galder Lasuen – Euskalit: cynyddu’r defnydd o’r Fasgeg mewn perthnasau gwaith mewnol