Restanza yn Blaenau: Gwleidyddiaeth Sylfaenol Newydd – Blog gan Lowri Cunnington Wynn

Awst 2023 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Ystyr Restanza yw dewis aros mewn ardal mewn modd ymwybodol, gweithgar a rhagweithiol drwy ei warchod, gan fod yn ymwybodol o’r gorffennol tra hefyd yn gwella’r hyn sydd yn weddill drwy ysgogiad tuag at y dyfodol lle mae cymuned newydd yn bosib. Yn hyn o beth, mae aros yn gysyniad deinamig, yn ffurf ar daith, yn fodd o gadarnhau bodolaeth wahanol a bodolaeth wedi ei ffurfio o bresenoldeb a gweithredu er mwyn atal absenoldeb a gadawiad. (Gaudioso, 2021)

Disgrifiwyd Blaenau Ffestiniog un tro fel ‘y dref wnaeth roi to ar y byd,’ ond mae dirywiad y diwydiant llechi a 100 mlynedd o ddad-ddiwydiannu wedi esgor ar heriau economaidd a dadboblogi.

Yn nhermau polisi prif ffrwd, mae Blaenau yn ymylol, israddol ac yn ‘fan wedi ei adael ar ôl’. Caiff ei ddiffinio gan golled a diffyg, gydag allbwn fesul pen isel a disymud, sgorau uchel ar indecsau amddifadedd cymdeithasol, diffeithwch ar y stryd fawr ac ataliad gwasanaethau trafnidiaeth a chymdeithasol. Felly mae gan San Steffan ‘Adran Ffyniant Bro’ â pholisïau i ‘gau’r gwant’ rhwng yr ardaloedd ymylol honedig ac ardaloedd canolog sydd yn denu’r medrus a’r uchelgeisiol o ganlyniad i’w perfformiad economaidd gwell.

Mae ein hadroddiad Ffordd Ymlaen yn deall Blaenau drwy lens wahanol, gan ddefnyddio’r cysyniad o restanza a ddatblygwyd gan yr anthropolegydd Vito Teti yn ei waith ar ei bentref ym Mezzogiorno’r Eidal, Stones into Bread (2018). Mae Teti yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladol cysylltiad at le a sut mae aros yn ôl yn gallu bod yn ddewis gweithgar a chadarnhaol ac nid ffawd ddiofyn y rhai llai galluog ac anturus. Mae hyn yn cyd-fynd â’n diddordeb hir dymor sylfaenol yn sut y mae llefydd arferol yn gweithio, sy’n cael ei gynrychioli mewn astudiaeth gynt o Dreforys a oedd yn herio dull nawddoglyd y brif ffrwd o edrych ar dref ôl ddiwydiannol sydd wedi gweld dyddiau gwell.

Mewn partneriaeth â Chwmni Bro Ffestiniog, a drwy ariannu gan Gyngor Gwynedd a Menter Môn, fe luniwyd holiadur oedd wedi ei ddylunio i archwilio perthynas y cysylltiad rhwng Bro â’i chymuned sefydledig. Roedd y 150 o bobl wnaeth ymateb yn is-grŵp diddorol o unigolion oedd yn siarad Cymraeg, wedi derbyn addysg bellach ac wedi penderfynu’n ymwybodol i fyw yn y Fro. Roedd ymatebwyr yr arolwg yn teimlo bod gwerth aros ym Mro Ffestiniog gan fwyaf oherwydd y bobl a’u rhwydweithiau o deulu, ffrindiau a chymuned. Ein prif ddarganfyddiad oedd taw perthnasau cymdeithasol agos oedd yn gwneud y Fro yn lle da i fyw er y GYC fesul pen isel.

Nid yw graddedigion Blaenau yn trefnu eu bywydau o gwmpas swyddi da a dalgylchoedd ysgol, fel y gwelir ym mywyd cartŵn dosbarth canol Seisnig. Wedi iddynt gael eu gofyn i roi tri rheswm dros aros, fe wnaeth ymatebwyr grybwyll teulu, iaith, cymuned a ffrindiau fwyaf aml (cafodd gwaith ond ei grybwyll gan bedwar o’r rheini wnaeth ymateb). Plus ca change. Mae’r blaenoriaethau cymdeithasgarwch hyn yn cyd-fynd ag adroddiadau blaenorol o Blaenau, cenhedlaeth a mwy yn ôl gan yr anthropolegydd Isabel Emmett (1982). Roedd y Fro yn arfer a dal i fod yn ardal hunangynhwysol lle mae trigolion yn treulio mwyafrif o’u bywydau yn dod i adnabod ei gilydd yn dda. Mae hyn yn dal i fod yn ardal o gymeriadau lleol ac amryw o wahaniaethau cymdeithasol a diwylliannol er llawer o newid ac fel y mae’r arolwg yn ei ddangos er enghraifft, fod mynychu’r capel yn arferiad oedd bron yn bur absennol yn y sampl.

Nid yw’r ymdeimlad o berthyn i Blaenau yn ddewis unigolyddol gan ei fod yn golygu ymroddiad i gadw a datblygu cymuned. Roedd cadw etifeddiaeth sy’n cael ei thrysori wrth wraidd blaenoriaethau’r rheini y gwnaethom eu cyfweld, sy’n cael ei ddangos mewn ymatebion megis ‘Gwarchod hanes’, ‘Cadw’r gymuned Gymraeg i fynd am flynyddoedd maith eto’ a ‘Cadw ysgolion yn agored’. Eto’r un mor bwysig oedd ymatebion am adeiladu dyfodol gwahanol. Er enghraifft, fe wnaeth un o’r ymatebwyr awgrymu ei fod am ‘sicrhau dyfodol, gwireddu potensial’ a ‘dwi’n gobeithio bydd gen i rywbeth i gynnig’.

Mae cyflogau isel a chyfleoedd gwaith cyfyngedig yn hysbys i’r rheini sy’n penderfynu aros. Eto, hyd yn oed os yw economi lewyrchus yn amherthnasol iddynt, mae’r rheini sydd yn aros angen swydd a chartref sy’n fforddiadwy ar gyflogau lleol. Pan ofynnwyd i’r rheini oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg i roi tri rheswm dros adael, yr ymatebion mwyaf cyson oedd diffyg gwaith, cartrefi, gwasanaethau cymdeithasol neu adnoddau cymunedol. Ar hyn o bryd mae poblogaeth Blaenau yn sefydlog ac mae’r dosraniad oedran ddigon tebyg i weddill Cymru. Os oes prinder swyddi, tai cymharol ddrud a gwasanaethau israddol, yna bydd Blaenau yn dirywio o ganlyniad i ddadboblogi i ddyfod yn debyg i’r pentrefi a ddaliwyd gan y nos yn ne’r Eidal, llefydd yn llawn hen bobl yn aros i farw.

Sut mae’r canfyddiadau ymchwil hyn yn llywio gwleidyddiaeth sylfaenol lle? Mae meddwl yn sylfaenol yn meddwl llawer mwy na honiadau am bwysigrwydd gwasanaethau hanfodol yn cael eu darparu gan y wladwriaeth les a gwasanaethau cyhoeddus. Mae dull meddwl yn sylfaenol ynghylch lle yn seiliedig ar un egwyddor glir: Os yw unigolion yn teimlo’n rhan o fywyd lluosog man penodol, rôl polisi cyhoeddus yw caniatáu iddynt i barhau i fyw yno gan gymryd yn ganiataol eu bod yn meddu ar y dychymyg, y gallu a’r dyfeisgarwch i ail-ddychmygu’r lle’n barhaus. Yn yr argyfwng natur a hinsawdd bresennol, mae’r egwyddor gymdeithasol hon yn cael ei hatgyfnerthu gan bwysigrwydd ecolegol ailddefnyddio ein stoc o adeiladau ac isadeiledd presennol.

Mae’r canfyddiadau ynghylch perthyn a grym restanza Blaenau yn bwysig gan eu bod yn arwyddocau bod ein hegwyddor gymdeithasol yn bwysig yng Nghymru. All dosbarth gwleidyddol Cymru edrych tu hwnt i ddull nawddoglyd ‘y rheini a adawyd ar ôl’ a ‘ffynnu Bro’ i gydnabod bywiogrwydd a photensial llefydd fel Blaenau sy’n gwneud rhinwedd o frawdoliaeth? Yn gyffredinol mae gwleidyddion o bob math wedi dilyn agweddau gwahanol ar egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb ar draul ystyried egwyddor brawdoliaeth. Eto mae modd creu gwleidyddiaeth ymarferol sy’n sicrhau amodau brawdoliaeth wedi’u gwreiddio mewn lle penodol.

Y dull sylfaenol wrth ystyried llefydd fel Blaenau yw i ofyn yn empeiraidd sut y mae llefydd o’r fath yn gweithio, a beth sy’n bwysig i’r rheini sydd yn dewis byw yno. Drwy ddilyn y dull hwn, gallwn ailddiffinio’r mater polisi yn nhermau sylfaenol: pan mae’r boblogaeth leol eisiau aros neu’n dewis dychwelyd, pa arferion a pholisïau fyddai’n cefnogi a chaniatáu iddynt wneud hyn? Dylai’r gwaith o sicrhau’r amodau sylfaenol gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Cymdeithasau tai a’r holl ‘sefydliadau angor’ yn cynghreirio a sefydliadau cymunedol ar ddau ffrynt: yn gyntaf, tyfu a datblygu gweithlu eich hunan gyda chyflogau byw yn yr holl sectorau sylfaenol sy’n cyflogi mwy na 40% o’r gweithlu lleol, yn ail; cartrefi sy’n fforddiadwy ar gyfraddau cyflog lleol drwy bolisïau mwy ffyrnig i reoli ail gartrefi ac Airbnb tra hefyd yn prynu neu adeiladu i osod tai ar gyfraddau mwy fforddiadwy.

Am beth ydyn ni’n aros? Mae Blaenau a’r Fro yn haeddu gwleidyddiaeth sylfaenol newydd.

Mae’r darn hwn yn tynnu ar waith ‘Ffordd Ymlaen? Grymuso Restanza mewn dyffryn llechi’ gan Lowri Cunnington Wynn, Julie Froud a Karel Williams. Fe’i gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan yr IWA. 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This