Adroddiad newydd y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Cefn gwlad yn dweud fod pobl eisiau gweld newid yn y system fwyd

Medi 2023 | Di-gategori

orange pumpkin lot

Mae adroddiad newydd gan Gomisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad (Food, Farming and Countryside Commission) yn dweud fod rhan gyntaf eu Sgwrs Genedlaethol Am Fwyd yn dangos fod nifer helaeth o bobl eisiau gweld newid gwirioneddol yn sut y mae’r system fwyd yn gweithredu yn y DU. Dros haf 2023 cynhaliwyd sesiynau trafod cyhoeddus yng Nghaergrawnt a Birmingham, ynghyd a phôl piniwn cenedlaethol newydd sy’n dangos fod trawstoriad eang o’r boblogaeth eisiau gweld y Llywodraeth y DU yn gwneud mwy i ddatrys problemau bwyd.

Yn ôl yr adroddiad, mae dinasyddion eisiau gweld mwy o ymyrraeth yn y system fwyd er lles iechyd y cyhoedd, natur a’r amgylchedd, ac yn gwrthod esgusodion ar gyfer diffyg gweithredu. Mae awduron yr adroddiad yn datgan fod hyn yn wir ym mhob categori oedran ac ar draws ymraniadau gwleidyddol. Mae’r adroddiad yn nodi bod pobl yn mynnu newid radical o holl weithredwyr y system, a bod hyn yn arwyddocau awch ehangach am gymdeithas decach, iachach a mwy gwyrdd. O ganlyniad i’r cymal cyntaf hwn o’r Sgwrs Genedlaethol mae’r Comisiwn yn datgan fod angen gwireddu’r egwyddorion canlynol:

  • Amgylchedd fwyd iachach a mwy gwyrdd, sy’n cynnwys cyfyngiadau ar hysbysebu bwyd sothach a gwella safonau bwyd mewn ysgolion ac ysbytai.
  • Cefnogaeth i ffermwyr i allu cynhyrchu bwyd mewn modd mwy cynaliadwy, gan fynd tu hwnt i bolisïau presennol i gynnig buddsoddiad pellach.
  • Trethi a rheoliadau i gadw busnesau bwyd mawr yn atebol os ydynt yn llygru, a chyfyngu cynhyrchiad bwydydd nad ydynt yn iach.
  • Cymorth ymarferol i ddinasyddion i helpu iddynt allu byw yn iachach ar ddiet cynaliadwy, megis ail ddosbarthu trethi ar gynhyrchwyr bwyd mawr i helpu’r rheini ar incwm isel i allu prynu bwyd o safon.
  • Arweinyddiaeth wleidyddol weladwy pan ddaw at lunio polisi bwyd ynghyd a chynllun gweithredu sy’n dod a gwahanol adrannau o’r Llywodraeth at ei gilydd.

Dyma yw rhan gyntaf y Sgwrs Genedlaethol, ac fe fydd sesiynau trafod pellach yn cael eu cynnal yn y misoedd nesaf ym mhob gwlad a rhanbarth oddi fewn i’r DU. I ddarllen yr adroddiad cyfan, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This