Lesley Griffiths yn cyhoeddi bydd ceisiadau ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru yn agor yn fuan

Medi 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

sheep, ovine, animals

Mae Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd ceisiadau ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru yn agor ar 29 Medi 2023. Daw Cynllun Cynefin Cymru fel rhaglen amaeth-amgylchedd interim ar gyfer 2024, wedi i gynllun Glastir ddod i ben ym mis Rhagfyr a chyn trefn newydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn 2025. Nid yw manylion llawn y cynllun parhaol hwnnw wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru eto, ond y nod gyda Chynllun Cynefin Cymru yw sicrhau cysondeb mewn darpariaeth grantiau amgylcheddol i ffermwyr Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweld y cynllun fel rhan allweddol o’u cynllun i ymateb i’r argyfwng natur eto nid ydynt eto wedi darparu cyllideb ar gyfer y cynllun. Mewn datganiad dywedodd Lesley Griffiths bod amryw o ffactorau wedi arwain at y sefyllfa hon:

‘Bydd aelodau’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa ariannol hynod anodd rydym yn ei hwynebu, sy’n cael effaith ar bob portffolio. Mae ein sefyllfa ariannol hyd at £900m yn is na’r disgwyl mewn termau real adeg yr adolygiad gwariant diwethaf yn 2021, oherwydd chwyddiant a phrisiau ynni uchel iawn a bod Llywodraeth y DU wedi camreoli’r economi.

Fel y gwyddoch, bu’r Cabinet yn gweithio gydol yr haf i wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru’r pwysau cyllidebol hwn. Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, byddaf mewn sefyllfa i gadarnhau’r gyllideb ar gyfer y Cynllun.’

Mae NFU Cymru wedi beirniadu diffyg eglurdeb y cyhoeddiad, gan ddweud fod angen manylion pellach i ddarbwyllo gofidion rhai ffermwyr ynghylch gostyngiad posib mewn nawdd. Maent yn dadlau fod y ffaith nad yw’r gyllideb wedi ei gyhoeddi eto yn anesmwytho’r rheini sydd yn ystyried ymroi i’r cynllun, yn enwedig y miloedd o’r ffermwyr oedd yn derbyn nawdd drwy gynllun Glastir yn y gorffennol.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru Hedd Pugh:

‘Wrth i bethau ddatblygu, rydym yn fwyfwy pryderus ar ran rheini sy’n meddu contractau Glastir, gyda nifer wedi bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd er degawdau ac wedi addasu eu busnesau o ganlyniad, gall nawr golli rhan sylweddol o’u hincwm yn 2024. Nid ydym wedi cael unrhyw sicrwydd bod y cynllun newydd interim yn cynnal lefelau incwm sy’n cael eu derbyn ar hyn o bryd drwy Glastir.’

Dywedodd hefyd ei fod yn allweddol i ddiwydiant sy’n llwyr ddibynnol ar gynllunio o flaen llaw er mwyn sicrhau llwyddiant, i gael sicrwydd lefelau cyllid er mwyn gwneud trefniadau angenrheidiol. Mae NFU Cymru wedi bod yn feirniadol yn y gorffennol o ddull Llywodraeth Cymru o symud tuag at gynllun interim newydd heb asesiad traweffaith na modelu economaidd.

Am y datblygiadau diweddaraf ynghylch Cynllun Cynefin Cymru 2024 ynghyd a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fydd yn ei ddilyn yn 2025, cadwch olwg ar ffrydiau Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This