Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cyhoeddi prentisiaeth newydd mewn gwydr lliw

Medi 2023 | Di-gategori, Sylw

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi eu bod am gynnig prentisiaeth er mwyn ceisio adfer crefft sy’n wynebu prinder gwneuthurwyr. Rhestrwyd cynhyrchu gwydr lliw gan Gymdeithas Crefftau Treftadaeth ar Restr Goch y Crefftau dan Fygythiad yn gynharach yn 2023. Mae ffactorau megis lleihad yn y farchnad, gwneuthurwyr presennol yn heneiddio, diffyg cyfleoedd hyfforddi a chostau cynyddol yn golygu fod rhai yn pryderu am barhad y grefft.

I geisio adfer y sefyllfa ac i sicrhau dyfodol y grefft, mae Coleg Celf Abertawe sy’n rhan o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Cymdeithas Prif Beintwyr Gwydr Prydain, Cwmni Anrhydeddus y Gwydrwyr ac amryw o randdeiliaid eraill o’r diwydiant wedi dod ynghyd i gynnig y brentisiaeth newydd. Bydd y Brentisiaeth Crefftberson Gwydr Lliw yn cael ei ariannu gan y llywodraeth, gyda’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Drindod Dewi Sant a’r asesu yn cael ei wneud gan y Sefydliad Cadwraeth. Bydd y cwrs yn cael ei ddilyn mewn cyfnodau penodol ar draws dair blynedd, ac yn darparu addysg mewn ystod eang o dechnegau ac arddulliau gwydr lliw.

Yn amlwg mae meithrin sgiliau ymarferol ynghyd a dysgu’r gweithdrefnau diweddaraf yn y maes megis trefniadau Iechyd a Diogelwch hanfodol a COSHH yn greiddiol i’r rhaglen. Bydd y sawl sydd yn cymryd rhan yn y brentisiaeth yn dysgu ystod eang o sgiliau crefft megis paentio gwydr, enamlo, ac ysgythru yn defnyddio asid. Bydd cyfle hefyd i’r rheini ar y cwrs ddysgu am hanes gwydr lliw er mwyn iddynt ddysgu mwy am gyd-destun y sgiliau ymarferol y maent yn eu caffael oddi fewn i draddodiad ehangach y grefft.

Mae Coleg Celf Abertawe yn un o’r canolfannau sy’n rhagori ar ddysgu gwneuthuriad a chrefft gwydr lliw. Mae’r adran a hanes cyfoethog yn dysgu’r grefft, ac yn meddu ar archif hynod o baneli, cartwnau a dyluniadau yn deillio o gyfnod o 80 mlynedd bydd ar gael i’r myfyrwyr fel adnodd dysgu ac i ddarparu ysbrydoliaeth.

Dywedodd Christian Ryan, Swyddog Cyswllt y Brentisiaeth Gwydr Lliw yn y Drindod Dewi Sant: ‘Mae’r rhaglen hon yn ddatblygiad arwyddocaol ym mharhad hyfforddiant gwydr lliw, ac mae’n gyfle arbennig i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr.’

‘Gyda gwaith caled a dyfalbarhad pawb dan sylw, a chymorth y gymuned gwydr lliw, rydym yn gobeithio y gellir tynnu gwydr lliw o Restr Goch y Crefftau dan Fygythiad yn fuan, ac y bydd y wybodaeth a’r sgiliau arbenigol yn parhau i gael eu trosglwyddo yn y dyfodol.’

Os ydych â diddordeb yn y cwrs ac am gael rhagor o wybodaeth ynghylch y ddarpariaeth sydd ar gael, cysylltwch â Christian Ryan yn uniongyrchol ar e-bost: c.ryan@uwtsd.ac.uk

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This