Adroddiad Siop Wledig 2021

Ebrill 2021 | Sylw

two women walking on pathway

Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) wedi annog Llywodraeth y DU i gydnabod pwysigrwydd siopau gwledig a sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu gadael ar ôl o ran gallu darparu gwasanaethau i’w cwsmeriaid.

Mae’r Adroddiad Siop Wledig ACS 2021 wedi datgelu pa mor hanfodol yw 17,000+ o siopau gwledig y DU i’w cymunedau lleol, gyda chanfyddiadau adroddiad eleni yn dangos bod defnyddwyr gwledig trwy gydol 2020 wedi defnyddio eu siop leol yn gynyddol ar gyfer ystod ehangach o gynhyrchion, ac un mewn pump yn nodi eu bod yn dibynnu ar eu siop leol fwy nawr na blwyddyn yn ôl.

Er bod yr adroddiad yn nodi bod cyfran uwch o siopau gwledig yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU, nid yw’n manylu ymhellach am Gymru, er hyn mae’n dal i dynnu sylw at bwysigrwydd yr economi gylchol a sylfaenol i’n cymunedau gwledig.

Mae canfyddiadau arall o’r adroddiad eleni yn cynnwys:

  • Mae siopau gwledig yn darparu cyflogaeth leol, hyblyg a diogel i dros 126,000 o bobl
  • Mae siopau gwledig wedi buddsoddi dros £197m yn eu busnesau dros y flwyddyn ddiwethaf
  • Mae pedair o bob pump (79%) o siopau gwledig yn cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau, gyda bron i hanner y siopau gwledig (42%) yn rhoi rhoddion i fanc bwyd lleol dros y flwyddyn ddiwethaf
  • Mae 21% o siopau gwledig bellach yn darparu gwasanaeth dosbarthu nwyddau cartref yn eu hardal leol

>GWELER ADRODDIAD LLAWN YMA<

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This