Ardoll ymwelwyr i Gymru

Mai 2023 | Polisi gwledig

green and brown mountain under blue sky during daytime

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn creu refeniw i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth yn eu hardaloedd. Y cynigion yw y bydd ardoll ymwelwyr yn dâl ychwanegol bach a fydd i’w godi ar arosiadau mewn llety ymwelwyr dros nos a osodir yn fasnachol. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol am y dull o gymhwyso’r ardoll yn cael eu gwneud ar ôl ystyriaeth lawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Nid gwneud i bobl ailfeddwl cyn ymweld â Chymru yw bwriad ardoll ymwelwyr. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y byddai’n gyfraniad bach gan ymwelwyr sy’n aros dros nos, a fydd yn creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael â rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu.

Gellir darllen y datganiad yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This