Arloesi digidol – a yw ein llunwyr polisi yn paratoi Cymru ar gyfer newid?

by Gor 28, 2020Awtomeiddio ac AI, Featured CY

Er y derbynnir bod arloesi digidol wedi newid ffordd o feddwl, mae’n anodd ei ddiffinio o hyd. Mae’r Athro Phil Brown, cadeirydd Adolygiad Llywodraeth Cymru o Arloesi Digidol, yn cyfeirio’n ddefnyddiol at arloesi digidol fel defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, y Rhyngrwyd Pethau, elfennau o roboteg, a thrin ffynonellau data mawr.

Yn adroddiad arbenigol yr Athro Brown a oedd yn edrych ar arloesi digidol a’r effeithiau ar Gymru, argymhellwyd bod angen i Gymru sefydlu modelau busnes newydd, arferion cyflogaeth, a ffyrdd o ddarparu sgiliau i’r gweithlu. Yr ofn mawr ymysg llunwyr polisi yw y bydd arloesi digidol, sy’n cael ei alw’r 4ydd chwyldro diwydiannol, yn achosi diweithdra torfol wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio wneud llawer o bobl yn ddi-waith. Mae’r Athro Brown yn fwy optimistaidd, fodd bynnag, gan nodi y gallai arloesi digidol greu swyddi, a bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi darparu fframwaith cadarn i sicrhau bod y manteision yn cael eu lledaenu ar draws yr economi er budd y gymdeithas ehangach.

Mewn erthygl a ysgrifennodd yn 2018 o’r enw ‘The robots are coming – Wales needs a plan’ fe wnaeth Lee Waters, Aelod Cynulliad ar y meinciau cefn rybuddio Llywodraeth Cymru na ddylai ‘geisio atal awtomatiaeth’ ond yn hytrach, ‘ei groesawu’. Yn yr erthygl, dadleuodd Mr Waters, sydd bellach yn Ddirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, gydag elfen o gyfrifoldeb dros y materion hyn, fod y newidiadau’n seismig ac yn anodd, ond bod yn rhaid i Gymru ‘wynebu’r bygythiadau a’r cyfleoedd hirdymor hyn.’

Estynnodd Llywodraeth Cymru wahoddiad i Aelod Llanelli o’r Senedd i arwain panel o arbenigwyr a oedd yn edrych ar effaith awtomeiddio a Deallusrwydd Artiffisial ar wasanaethau cyhoeddus. Roedd yr adroddiad, ‘System Reboot -transforming public services through better use of digital’ yn dadlau bod diffyg hyder digidol ymysg arweinwyr sector cyhoeddus, bod yn rhaid i elfennau digidol fod wrth wraidd y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau, a bod yn rhaid i’r newidiadau hyn ddigwydd yn gyflym.

Nid yw’r Gymraeg hyd yn oed wedi’i heithrio o feddylfryd llunwyr polisi ar y materion hyn. Yn 2017, nododd y Cynllun Gweithredu Technoleg Iaith Gymraeg dechnoleg lleferydd, cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur, a Deallusrwydd Artiffisial sgwrsio fel cyfle i gyflawni’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Covid-19 wedi dangos i ni yn fwy clir nag erioed y cyfleoedd ar gyfer arloesi digidol. Wrth i’r wlad wynebu cyfyngiadau symud, rhoddodd rhannau helaeth o’r gweithlu y gorau i weithio yn eu swyddfeydd a mynd i weithio gartref, roedd meddygon teulu yn cynnig ymgynghoriadau dros y ffôn, dechreuodd mwy a mwy o bobl siopa ar-lein, a daeth cwis ar Zoom ar nos Sadwrn yn ffordd newydd o gwrdd â theulu a ffrindiau. Ar lefel mwy argyfyngus, technoleg sy’n allweddol i fynd i’r afael â’r pandemig, drwy systemau Diogelu ac Olrhain gydag arloesedd digidol yn greiddiol iddynt.

Cawsom ein gorfodi i groesawu arloesi digidol ar draws ein bywydau gwaith, defnyddwyr a phersonol, ac mae pob un ohonom wedi gweld pa mor werthfawr y gall fod.

Ffynonellau:

‘The robots are coming – Wales needs a plan’
https://www.iwa.wales/agenda/2018/01/robots-coming-wales-needs-plan/?lang=cy

System Reboot – Transforming public services through better use of digital
https://www.leeforllanelli.wales/wp-content/uploads/systemreboot.pdf

Adolygiad o Arloesi Digidol – Adroddiad Terfynol
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-09/cyflawni-trawsnewidiad-economaidd-ar-gyfer-gwell-dyfodol-gwaith.pdf

Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg
Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg

Share This