Comisiynydd Iaith yn galw am well gwasanaethau llafar yn y Gymraeg

Hydref 2023 | Arfor, Sylw

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffydd Jones wedi galw ar sefydliadau yng Nghymru i wneud mwy i ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ei hadroddiad sicrwydd cyntaf yn y swydd mae’r Comisiynydd yn cydnabod fod lefelau cydymffurfiaeth a Safonau’r Gymraeg wedi gwella ond bod angen i sefydliadau fynd ati i greu awyrgylch lle mae’r Gymraeg yn gallu cael ei defnyddio’n naturiol bob dydd. Drwy gynyddu a chryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, creda’r Comisiynydd y gall gwelliannau gael ei gweld o ran gwneud y Gymraeg yn rhan fwy amlwg o waith dydd i ddydd gwahanol sefydliadau.

Gwêl y Comisiynydd y byd gwaith yn rhan allweddol o sicrhau amlygrwydd a iechyd y Gymraeg:

‘Mae twf mewn addysg Gymraeg yn hanfodol ond mae angen sicrhau hefyd fod cyfleoedd i’n pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith wedi hynny. Mae’n braf gweld fod gwasanaethau ysgrifenedig Cymraeg ar gael yn helaeth ond prin yw’r cynnydd yn y gwasanaethau llafar sydd ar gael sef yr hyn y mae pobl yn ei ddweud y maent ei eisiau yn fwy na dim.’

‘Rwy’n cydnabod fod recriwtio er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau hyn yn medru bod yn heriol ond mae angen rhoi mwy o bwys ar y Gymraeg fel sgìl ac rwy’n annog sefydliadau i greu strategaethau cynllunio gweithlu dwyieithog.’

Mae’r adroddiad yn un sy’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol er mwyn monitro cydymffurfiaeth a Safonau’r Gymraeg ac er mwyn darparu adnodd i sefydliadau gyfeirio ato wrth iddynt geisio gwella eu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgan y canlynol:

  • Bod 95% o bobl yn derbyn cyfarchiad yn y Gymraeg wrth gysylltu â sefydliad cyhoeddus dros y ffôn.
  • Bod 90% o’r negeseuon y mae sefydliadau cyhoeddus yn eu cyhoeddi ar Twitter/X a Facebook i’w cael yn Gymraeg.
  • Bod 72% o’r rheini a holwyd yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella.
  • Bod bron i 75% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd yn deall fod cyfle iddynt ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Un canfyddiad o ymchwil yr adroddiad sydd wedi ennyn sylw’r Comisiynydd yw’r canran o siaradwyr Cymraeg sydd wedi profi rhywun yn eu hatal rhag siarad Cymraeg. Dywedodd 18% o’r rheini holwyd eu bod wedi profi hyn yn y flwyddyn diwethaf, gyda’r ffigwr yn codi i 29% ymysg y rheini oedd rhwng 16 a 24 mlwydd oed.

Dywedodd y Comisiynydd:

‘Mae’r math hwn o negyddiaeth tuag yr iaith Gymraeg, heb os, yn effeithio ar hyder siaradwyr Cymraeg ac yn siŵr o gael effaith ar lefelau defnydd o’r Gymraeg.’

I ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, ac i ddysgu mwy am yr ymchwil sy’n sail iddo, dilynwch y ddolen hon i wefan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This