Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi addasiad i gynllun tai

Awst 2023 | Arfor, Sylw

Mewn digwyddiad ar eu stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd y byddai tai oedd yn arfer bod yn ail gartrefi yn cymhwyso ar gyfer grant arbennig wedi ei lunio ar gyfer dod a thai gwag a segur nol mewn i ddefnydd cyson. Mae’r grant yn cael ei ddarparu i brynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gwag er mwyn sicrhau eu bod yn addas i fyw ynddynt, o ganlyniad i’r newid hwn bydd y rheini sy’n prynu tai oedd gynt yn dai haf hefyd yn gallu derbyn y grant adnewyddu.

Mae’r cynllun adnewyddu tai gwag wedi bod yn ei le ers 2021 ac mae Cyngor Gwynedd yn honni fod y newidiadau i ehangu’r cynllun yn dod oherwydd cynnydd yn y rheini sy’n ymgeisio ac yn methu cymhwyso i dderbyn y grant. Yn ôl y Cyngor mae 70 o brynwyr tro cyntaf wedi derbyn cymorth drwy’r Cynllun Grantiau Prynwyr Tro Cyntaf i Adnewyddu Tai Gwag. Mae £4m wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun hyd nes y flwyddyn ariannol 2026/27 gyda £500,000 o hwnnw wedi ei ddosbarthu yn barod.

Am fwy o wybodaeth am y newidiadau, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Gwynedd. Os hoffech wneud cais am y grant, mae modd gwneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This