Cynllun ARFOR: Prosiect Llwyddo’n Lleol i gynnal penwythnos preswyl i deuluoedd

Hydref 2023 | Arfor, Sylw

Mae Llwyddo’n Lleol wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal penwythnos preswyl i deuluoedd sydd yn ystyried dychwelyd i ardal ARFOR. Nod y prosiect yw darparu cyfle i’r teuluoedd gael profiad o fywyd yn yr ardal ac i archwilio unrhyw heriau posib y maent yn ei wynebu wrth wneud y penderfyniad.

Mae cyfle i bedwar teulu ifanc sy’n ystyried symud i dreulio penwythnos yn rhad ac am ddim ar Fferm Bargoed ger Aberaeron i brofi bywyd gwledig a’r cyfleoedd sydd gan ARFOR ei gynnig. Bydd y penwythnos yn cynnwys sesiynau hamdden, gweithgareddau i’r plant a chyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch y broses o ddychwelyd gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau. Ymysg y sesiynau bydd un dan ofal Mudiad Ysgolion Meithrin am fagu plant yn ardal ARFOR a thrafodaethau ynghylch sefydlu busnes a gweithio yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.

Mae’r penwythnos yn rhan o gynllun peilot gan Llwyddo’n Lleol i geisio deall yn well yr hyn sy’n cymell pobl i eisiau symud yn ôl i ardal ARFOR, yr heriau sy’n wynebu teuluoedd wrth wneud hyn a sut y gellid cynorthwyo teuluoedd sy’n ystyried symud yn ôl yn well er mwyn hwyluso’r broses. Y bwriad gan Llwyddo’n Lleol yw dysgu o’r penwythnos cychwynnol hwn rhai o’r prif ffactorau y mae teuluoedd yn eu hystyried wrth symud a datblygu rhaglen ehangach bydd yn gweithio i ddenu pobl yn ôl i fyw yn ARFOR.

Dywedodd Alaw Rees, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol yng Ngheredigion:

‘Rydym yn disgwyl ymlaen at groesawu sawl teulu i’n digwyddiad. Rydym yn awyddus i gael sgyrsiau gonest gyda theuluoedd ynglŷn â’r rhwystrau sy’n eu dal yn ôl rhag dychwelyd i ARFOR gan hefyd amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael yn ARFOR a’r gefnogaeth rydym yn gallu darparu drwy’r prosiect Llwyddo’n Lleol.’

Mae’r penwythnos preswyl yn cael ei gynnal rhwng 27 – 29 Hydref 2023 ac yn agored i deuluoedd a rhieni 35 mlwydd oed neu iau sydd yn dod o ardal ARFOR ond sydd bellach yn byw rhywle arall. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb i fynychu’r penwythnos, cysylltwch â Llwyddo’n Lleol drwy e-bostio: llwyddonlleol@rhaglenarfor.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This