Cynllun Mentoriaid

Ionawr 2019 | Arfor, Sylw

Cymorth Mentoriaid

Mae’r syniad o greu cynllun mentoriaid wedi deillio o waith y prosiect Marchnad Lafur Cymraeg ar ein clwstwr Perchnogaeth Gymunedol. O ganlyniad i drafodaethau yng Nghynhadledd Perchnogaeth Gymunedol fe welwyd yr angen am gymorth ymarferol ar fentrau cymunedol er mwyn cynyddu cymhwysedd a datblygu eu gwasanaeth. Hefyd, wrth drafod ymhellach gyda’r grŵp gweithredol y clwstwr gwelwyd ei fod yn bwysig ein bod yn dod o hyd i ffordd fwy effeithlon o rannu arfer da ymysg mentrau yn enwedig i fentrau cymunedol newydd sy’n gweld angen am brofiad ac arbenigedd wrth ddechrau’r broses o greu busnes.

Bydd y cynllun mentora yn cynnig mentoriaid i fentrau cymunedol neu sefydliadau cymunedol sydd eisiau cymorth ymarferol i gynyddu cymhwysedd. Mae’r cynllun ymgynghori hwn yn wahanol i gynlluniau mentora eraill gan ei fod yn cynnig ethos a chymorth Cymraeg a Chymreig lle mae’r gymuned yn ganolbwynt. Byddwn yn targedu helpu hyd at bum menter gan ganolbwyntio ar fentrau cymunedol sydd ar gychwyn a chynghorau cymunedol sydd yn edrych ar gynyddu cymhwysedd eu clerc lleol.

Rydym wedi dethol mentoriaid o amryw o fentrau cymunedol sydd â phrofiad ac arbenigedd penodol yn y maes i weithio gyda’r mentrau neu sefydliadau cymunedol ar gynyddu cymhwysedd trwy gynnig cymorth mewn amryw o ffyrdd megis trwy help gyda marchnata neu gynllun busnes. Byddwn yn penodi’r mentoriaid yn ddibynnol ar ba fath o gymorth mae’r fenter ei angen.

Fel rhan o’r clwstwr rydym wedi gwneud gwaith mapio cyffredinol sy’n rhoi syniad o gyflwr mentrau cymunedol yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys holiadur rydym wedi rhannu ymysg mentrau cymunedol sydd wedi rhoi gwybod beth yw’r anghenion a heriau sy’n eu hwynebu. Golygir hyn ein bod yn ymwybodol o ba fath o gymorth mae’r mentrau ei angen. Dyma un ffordd rydym wedi casglu gwybodaeth er mwyn gallu gweithredu’r cynllun mentoriaid.

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn adnodd gwerthfawr i brofi’r angen am gymorth ymarferol ar fentrau cymunedol a dangos buddion o weithio yn fwy cynaliadwy er lles economi ein cymunedau.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This