Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi cynllun i dreialu llwch craig fel maetholyn

Hydref 2023 | Polisi gwledig, Sylw

a black and white photo of a rock wall

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi eu bod yn ariannu cynllun peilot bydd yn gweld dwy fferm ym Mhowys yn defnyddio llwch craig fel maetholyn i dyfu glaswellt. Daw y llwch o gerrig basalt o chwarel yn Llanfair-ym-Muallt ac fe fydd yn cael ei daenu ar draws 2.4 hectar yn ffermydd Upper House yn Hawau a Fferm Treforgan yn Dolau. Bydd yna wedyn waith cymharu yn cael ei wneud rhwng yr ardaloedd ar y ffermydd sydd wedi eu taenu a’r craig basalt, ardaloedd eraill fydd yn derbyn basalt a gwrtaith ac ardal reoli arall na fydd yn derbyn unrhyw ymyrraeth maeth o gwbl.

Y bwriad yw ailadrodd y broses yn y gwanwyn, ar gaeau bydd yn tyfu silwair neu wair gan fonitro y canlyniadau bryd hynny ar gyfer cymhariaeth hefyd. Bydd yna waith ymchwil pellach yn cael ei gynnal ar samplau o’r pridd fydd yn cael eu cymryd cyn ag ar ôl gwasgaru’r llwch basalt.

Y gobaith yw fydd y peilot yn arwain y ffordd ar gyfer dulliau mwy cynaliadwy o ffermio, gan leihau dibyniaeth ar wrteithiau sy’n ddibynnol ar olew. Ar hyn o bryd mae craig basalt yn costio oddeutu £40 y dunnell, felly gall hefyd gynrychioli cyfle i ffermwyr leihau costau ffermio yn sylweddol.

Bydd canlyniadau’r prosiect yn cael eu rhannu ar ddiwedd 2024 ar ôl i’r prosiect ddod i ben.

Mae cyllideb Arbrofi Cyswllt Ffermio yn ariannu prosiectau sydd am dreialu syniadau newydd neu geisio arloesi ym myd amaeth. Mae ffenest ymgeisio newydd wedi agor ers 9 Hydref 2023 ac yn rhedeg nes 20 Hydref 2023. Bydd modd i ymgeiswyr llwyddiannus ennill hyd at £5,000 i wireddu eu cynlluniau.

Dywedodd Non Williams, sy’n goruchwylio’r prosiect basalt:

‘Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy’n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect.’

Am fwy o fanylion ynghylch y gyllideb Arbrofi, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu e-bostiwch fctryout@menterabusnes.co.uk.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This