Darganfod calon Cymru: Sir Gâr a Cheredigion

Ebrill 2024 | Arfor, Hyb Cysylltwr GlobalWelsh, Sylw

Llanymddyfri

Croeso i rifyn cyntaf ein cyfres sy’n trafod Sir Gâr a Cheredigion. Fel rhan o lansiad Hyb Cysylltwr Sir Gâr a Cheredigion, byddwn yn trafod hanes cyfoethog, diwylliant bywiog ac ecosystem arloesol dwy o siroedd hynod Cymru. Yn swatio yng nghanol Cymru, mae’r rhanbarthau hyn yn cynnig cyfuniad o harddwch naturiol syfrdanol, traddodiadau hynafol ac ymdeimlad cryf o ddiwylliant ac arloesedd modern.

Ymunwch â ni dros yr wythnosau nesaf wrth i ni fynd â chi ar daith trwy bedwar maes allweddol: eu harddwch naturiol a’u daearyddiaeth, eu treftadaeth ddiwylliannol a’u hiaith, prif aneddiadau a thirnodau pensaernïol, a’r economi sy’n esblygu a rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae’r erthygl hon yn rhoi cipolwg ar Sir Gâr  a Cheredigion ond o ystyried natur ddeinamig y rhanbarthau, efallai y bydd rhai manylion yn newid wrth i ddatblygiadau newydd godi.

Ceredigion: Gem arfordirol gyda gwreiddiau hynafol

Mae Ceredigion, sy’n adnabyddus am ei harfordir garw, ei bryniau tonnog, a’i diwylliant Cymraeg dwfn, yn ymestyn o’r glannau gorllewinol ar hyd Bae Ceredigion i ucheldir Pumlumon. Mae’r sir hon yn dapestri o drefi prydferth, pob un â’i swyn unigryw. Mae Ceredigion yn fan lle mae hanes a moderniaeth yn cwrdd; pensaernïaeth Sioraidd Aberaeron a threftadaeth forwrol Aberporth, canolbwynt academaidd a diwylliannol Aberystwyth, a rhyfeddodau hynafol Aberteifi. Gyda 50 milltir o arfordir hygyrch ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, mae’n hafan i anturiaethwyr a’r rhai sy’n hoff o fyd natur. Er gwaethaf ei ehangder, mae Ceredigion yn denau ei phoblogaeth, yn gartref i tua 71,500 o bobl, gyda bron i hanner yn siarad Cymraeg, sy’n cynnal treftadaeth ieithyddol y rhanbarth.

Sir Gâr: Ble mae hanes yn cwrdd â natur

Mae gan Sir Gâr dirwedd sydd mor amrywiol â’i hanes, gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i ‘Awyr Dywyll’ a Bae Caerfyrddin sy’n llawn bywyd gwyllt yn diffinio ei harddwch naturiol. Mae aneddiadau’r sir, o Gaerfyrddin a sefydlwyd gan y Rhufeiniaid, Llanelli gyfoethog ei threftadaeth ddiwydiannol, i drefi marchnad Rhydaman a Llandeilo, yn adrodd hanesion am orffennol sy’n cydblethu â hynt y presennol. Mae Cydweli yn cynnig golygfeydd o’r castell canoloesol, tra bod hud marchnad Castellnewydd Emlyn yn swyno ymwelwyr. Fel y drydedd sir fwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd, sir wledig yn bennaf yw Sir Gâr, sy’n cynnig encil heddychlon i’r tua 190,000 o drigolion, y mae bron i hanner ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.

Etifeddiaeth o economi a diwylliant

Mae’r ddwy sir yn rhannu etifeddiaeth o economïau trawsnewidiol. Mae Ceredigion, a fu unwaith yn ganolbwynt diwydiannol, bellach yn ffynnu ar ffermio a thwristiaeth, gan ddathlu ei diwylliant trwy wyliau a safleoedd treftadaeth lleol. Mae Sir Gâr, gyda’i chyfoeth archeolegol a’i sylfaen amaethyddol, wedi arallgyfeirio i weithgynhyrchu, manwerthu, a gwasanaethau, gan ddenu ymwelwyr i’w safleoedd naturiol a hanesyddol fel yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a Thalacharn, encil hoff Dylan Thomas.

Ceredigion a Sir Gâr: Arloeswyr dyfodol cynaliadwy ac arloesol

Yng nghanol Cymru, mae Ceredigion a Sir Gâr yn arwain y ffordd tuag at ddyfodol mwy disglair a chynaliadwy. Mae’r rhanbarthau hyn yn croesawu arloesedd a chynaliadwyedd bob tro. Dyma olwg agosach ar sut mae’r siroedd hyn yn gosod esiamplau ar gyfer gweddill y DU a thu hwnt.

Chwyldro ynni adnewyddadwy yng Ngheredigion

Mae Ceredigion ar flaen y gad o ran arloesi ym maes ynni adnewyddadwy, gydag uchelgais eofn a chlir sydd â’r nod o gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2030 tra’n hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae’r sir yn archwilio amrywiaeth o ffynonellau ynni adnewyddadwy, o ffermydd gwynt a pharciau solar i brosiectau trydan dŵr a biomas.

Arloesi amaethyddol

Mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn gonglfaen i economi Ceredigion, ac yma hefyd, mae arloesedd yn arwain y ffordd. Mae’r rhanbarth yn defnyddio technegau ffermio manwl gywir, atebion technoleg amaeth, ac arferion cynaliadwy i wella cynhyrchiant. Mae llu o straeon llwyddiant, o ffermydd llaeth yn cofleidio technoleg i ffermio organig ac arallgyfeirio, gan osod safon newydd ar gyfer integreiddio technoleg â gwyddorau amaethyddol a biolegol.

Datblygiadau technolegol ac adferiad economaidd

Mae Prifysgol Aberystwyth yn esiampl o arloesi, yn enwedig mewn deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch a gwyddor data. Mae’r rhagoriaeth academaidd hon yn bwydo i’r economi leol, gan gefnogi busnesau newydd ym maes technoleg trwy fannau cydweithio, deoryddion a chanolfannau arloesi. Mae’r campws Arloesi yn cefnogi cwmnïau ac yn hwyluso lansiad cynhyrchion a gwasanaethau i’r farchnad yn gyflymach, gan gryfhau eu mantais gystadleuol a’u siawns o lwyddo. Mae Cyngor Sir Gâr yn mynd i’r afael â’r heriau a ddaw yn sgil Brexit a Covid-19 yn uniongyrchol drwy sefydlu Grŵp Cynghori Busnes a sicrhau cyllid drwy raglenni amrywiol, ac mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer adferiad economaidd cadarn.

Menter Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Mae cydweithrediad Sir Gâr â Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dangos ymrwymiad i ddatblygu rhanbarthol. Nod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw creu dros 9,000 o swyddi medrus a chynhyrchu twf economaidd sylweddol erbyn 2033. Mae’r bartneriaeth hon yn fodel o sut y gall awdurdodau lleol gydweithio i hybu economïau a chynhyrchiant rhanbarthol.

Cefnogi economi gylchol

Mae’r ddwy sir yn cymryd camau breision i hyrwyddo economi gylchol. Mae Sir Gâr yn cynnig rhaglen Cymunedau Arloesi Economi Gylchol, gan gefnogi busnesau a sefydliadau i ddatblygu arferion cynaliadwy a gweithio tuag at nodau Sero Net. Mae’r fenter hon, ynghyd â Chronfa Mentrau Gwledig Sir Gâr, yn rhoi cymorth hanfodol i fusnesau sy’n canolbwyntio ar arloesi a chynaliadwyedd.

Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

Mae’r Egin yn Sir Gâr yn gatalydd ar gyfer y diwydiannau creadigol a’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ehangach. Trwy feithrin cydweithio rhwng partneriaid amrywiol, mae’r Egin yn sicrhau adfywiad a chryfder yr iaith Gymraeg gan gyfrannu’n sylweddol at fywiogrwydd diwylliannol ac economaidd y rhanbarth.

Mae Ceredigion a Sir Gâr yn dangos y gall cynaliadwyedd, arloesi a chymuned fynd law yn llaw. Mae eu hymdrechion mewn ynni adnewyddadwy, amaethyddiaeth, technoleg, a chadwraeth ddiwylliannol nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth heddiw ond hefyd yn sicrhau dyfodol llewyrchus, cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Nod y darn hwn yw amlygu agweddau allweddol a mentrau cyfredol ond ni all gynnwys pob agwedd ar newidiadau parhaus. I gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth fanylach, cyfeiriwch at adnoddau lleol ac os oes gennych fewnwelediadau, cwestiynau, neu os hoffech gymryd rhan yn y sgwrs, rydym yn eich annog i estyn allan ac ymuno â’r drafodaeth.

Os ydych yn hanu o Sir Gâr neu Geredigion ac eisiau gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael, beth am ymuno â Hyb Cysylltwr Sir Gâr a Cheredigion.

E-bostiwch post@sgema.cymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This