DIGWYDDIAD: tlodi gwledig – tuag at strategaeth dros ganolbarth a gorllewin Cymru

Mawrth 2024 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Dyddiad: 28/04/24
Amser:
1:30 – 3:30pm
Lleoliad: Castell Newydd Emlyn

Cyfarfod cyhoeddus, dan ofal Cefin Campbell AS, i drafod strategaeth ddrafft ar gyfer mynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd Cefin Campbell AS:

“Gwyddom fod ein cymunedau gwledig yn wynebu nifer o heriau strwythurol, sy’n cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw presennol. Yn y cyd-destun hwn, mae angen inni ddod o hyd i atebion newydd a chreadigol i faterion hirdymor. 

“Dyna pam rwyf wedi bod yn gweithio dros y misoedd diwethaf i amlinellu strategaeth newydd i fynd i’r afael â thlodi gwledig. Rwy’n awyddus nawr i rannu drafft o’r strategaeth hyn, i’w drafod ac i gael eich adborth arno.   

“Rwy’n gwahodd chi, felly, i ymuno â chyfarfod cyhoeddus i drafod fy strategaeth tlodi wledig dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd panelwyr arbenigol yn ymateb i’r strategaeth ddrafft, ac fe’i dilynir gan gyfle am fyfyrdodau a chyfraniadau o’r llawr.” 

Cynhelir y digwyddiad hwn ar ddydd Iau, 28 Mawrth, yng Ngwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn, rhwng 13:30-15:30.

Gallwch archebu lle yma:
https://www.tickettailor.com/events/cefincampbellasms/1184898

Bydd y digwyddiad hwn y cael ei gynnal yn y Gymraeg ac yn Saesneg.  

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This