Lansiad Canolfan Tir Glas

Ebrill 2022 | Sylw

Mewn noson arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws Llambed, Mawrth 17eg 2022, gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lansio prosiect Canolfan Tir Glas.

Wrth nodi’i daucanmlwyddiant, mae’r Drindod Dewi Sant wedi lansio gweledigaeth gyffrous newydd ar gyfer dyfodol ei champws yn Llambed sy’n adeiladu ar ei enw byd-enwog fel canolfan ar gyfer astudio’r Dyniaethau a deialog amlddiwylliannol a rhyng-ffydd. Y nod yw creu cynnig hirdymor ar gyfer y campws a’r dref, wedi’i seilio ar egwyddorion cydnerthedd a chynaliadwyedd, sy’n cynnig cyfle i hyrwyddo cryfderau a chyd-destun gwledig yr ardal.

Ystyr y term ‘Tir glas’ yw tirwedd werdd a ffrwythlon ac mae’n deillio o gyfres o straeon byrion gan D.J. Williams sy’n portreadu gwytnwch a boneddigeiddrwydd trigolion cymunedau amaethyddol Llambed a gogledd Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, Cyngor Tref Llambed, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ogystal â Llywodraethau Cymru a’r DG ynghylch datblygu Canolfan Tir Glas. Mae’r datblygiad eisoes wedi derbyn cyllid gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth DG a chan Gynnal y Cardi, Rhaglen Datblygu Gwledig (LEADER) Ceredigion, a gyllidir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae chwe phrif ran ategol Canolfan Tir Glas fel a ganlyn:

1. Pentref Bwyd Pontfaen, a fydd yn galluogi’r Drindod Dewi Sant a’r manwerthwr bwyd disgownt Aldi i arddangos a dathlu cynnyrch bwyd lleol.

2. Hwb Bwyd Cymunedol i ddarparu cyfleuster cymunedol i ddatblygu sgiliau’n seiliedig ar gynhyrchu bwyd yn lleol.

3. Academi Bwyd Cyfoes Cymru i sefydlu hwb canolog ar gyfer addysg a hyfforddiant bwyd, gan weithio gyda phartneriaid ar draws canolbarth a de-orllewin Cymru.

4. Hwb Mentergarwch Gwledig i hyrwyddo busnesau bach sy’n gweithio mewn cyd-destun gwledig, yn benodol yn y diwydiannau bwyd a lletygarwch.

5. Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Hwb Ymaddasu Llambed i ddatblygu cyrsiau mewn meysydd yn gysylltiedig â lleddfu ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys ym meysydd amaethyddiaeth, garddwriaeth, ynni ac adeiladwaith.

6. Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC mewn cydweithrediad â Woodknowledge Wales i ddarparu adnoddau ac ymchwil i hyrwyddo dulliau adeiladu modern a chynaliadwy gyda’r nod o ddatgarboneiddio’r diwydiant adeiladu yng Nghymru.

I ddysgu mwy: Tir Glas

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This