Lansio’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Medi 2022 | Sylw

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg wedi lansio’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, esboniodd y Gweinidog pam fod angen meddwl o’r newydd am anghenion y Gymraeg mewn llawer o feysydd polisi. Mae’r rhain yn cynnwys effaith COVID-19, effaith newidiadau cymdeithasol diweddar ar gymunedau ac effaith Brexit. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn ganolog i’r weledigaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.

Y nod yw cryfhau’r iaith mewn cymunedau sy’n cael eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd i’r Gymraeg. Bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol i ddechrau, cyn ei hystyried fel iaith gymunedol mewn rhannau eraill o Gymru.

Bydd y Comisiwn yn gwneud argymhellion polisi ac yn cyhoeddi adroddiad o fewn dwy flynedd yn amlygu ymyriadau posibl. Bydd yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe ac yn cynnwys deg aelod ychwanegol.

Mae manylion y Comisiwn a’i aelodau i’w gweld yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This