Lesley Griffiths yn cyhoeddi dechrau Prosiect TB buchol

Awst 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae prosiect i geisio mynd i’r afael a TB buchol yn Sir Benfro wedi dechrau yn ôl Lesley Griffiths, yn dilyn dyfarnu’r contract ar gyfer cyflenwi’r prosiect i grŵp dan arweiniad Iechyd Da (Gwledig) Ltd. Mae’r prosiect yn Sir Benfro yn rhan o’r Cynllun Cyflawni TB buchol cafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Mae’r cynllun yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i waredu TB buchol yn llwyr yng Nghymru drwy wahanol ddulliau.

Bydd y prosiect yn Sir Benfro yn ceisio datrys y lefelau uchel o TB sydd i’w ganfod mewn rhai ardaloedd yno, gyda’r nod o wella cydweithrediad rhwng milfeddygon a ffermwyr er mwyn datrys y broblem mewn modd mwy cydlynol ac effeithiol. Daw’r cyhoeddiad ar ddiwrnod Sioe Amaethyddol Sir Benfro. Gallwch ddarllen diweddariad llawn y gweinidog yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This