NFU Cymru yn mynegi pryder am golli incwm wedi diwedd Glastir

Medi 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru wedi mynegi gofid y bydd y rheini sydd yn elwa o gytundebau Glastir o dan y drefn bresennol ar eu colled pan ddaw’r cynllun newydd dros dro i rym ar ddechrau 2024. Daw nawdd Cynllun Glastir drwy’r Undeb Ewropeaidd a bwriad y cynllun yw annog dulliau o ffermio sydd yn amgylcheddol gyfrifol drwy roi taliadau i ffermwyr. Mae’r arian ar gyfer y cynllun yn dod i ben ar ddiwedd 2023 o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd, ac felly mae Llywodraethau amrywiol y Deyrnas Gyfunol wrthi’n creu fframweithiau newydd bydd yn cymryd ei le.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio rhaglen o’r enw Cynllun Cynefin Cymru, bydd yn cymryd lle Glastir dros dro a fydd yn para blwyddyn hyd nes dyfodiad cynllun parhaol o’r enw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Disgwylir i Gynllun Cynefin Cymru roi taliad am bob hectar o dir cynefin, gan gynnwys tir cynefin oedd yn cael ei reoli yn 2023; tir cynefin ychwanegol sydd wedi ei fapio a ddim o dan reolaeth wedi ei dalu amdano; ynghyd a chefnogaeth amgylcheddol ar gyfer tir comin. Nid yw cyllideb y cynllun na chyfraddiadau’r taliadau bydd yn cael eu gwneud i ffermwyr wedi eu gwneud yn hysbys gan Lywodraeth Cymru eto.

Dywedodd cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru Hedd Pugh:

‘Mewn llythyr i’r Gweinidog mis diwethaf, pwysleisiodd NFU Cymru’r angen i ddarparu pont sefydlog, wedi’i gynllunio’n dda rhwng y cynllun presennol a rhai’r dyfodol. Rydym wedi croesawu addewid Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu i wneud y cyfnod hwn o newid mor hawdd â phosib ar gyfer ffermwyr drwy gynnig cyfnod pontio teg dros sawl blwyddyn gan sicrhau nad oes dibyn i’r cyllid.

Eto, ein gofid yw bod Llywodraeth Cymru yn ymddangos i fod wedi gwneud penderfyniad o’r fath bwys heb asesiad effaith cyflawn a modelu economaidd. Mae hyn yn destun gofid mawr. Mae miloedd o ffermwyr gyda chytundebau Glastir yn wynebu’r posibilrwydd o gwymp sylweddol yn eu hincwm o ddiwedd y flwyddyn hon a Llywodraeth Cymru yn methu darparu unrhyw sicrwydd y bydd y cynllun newydd interim yn gymesur a’r lefelau incwm y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd drwy Glastir. Mae hyn ymhell o fod yn ‘gyfnod pontio teg’.’

Gallwch ddysgu mwy am ymateb NFU Cymru i gynlluniau taliadau ffermio Llywodraeth Cymru drwy eu gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This