Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig (cam un)

Rhagfyr 2023 | Cymru Wledig LPIP Rural Wales

a rocky cliff next to the ocean

Beth yw PPALl Cymru Wledig?

Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (PPALl) Cymru Wledig yn grŵp o ymchwilwyr academaidd, cyrff cyhoeddus, a rhanddeiliaid yn y sector preifat a’r trydydd sector sy’n anelu at wella’r defnydd o ymchwil ac arloesi i gefnogi’r gwaith o lunio polisïau, datblygu rhanbarthol a chydnerthedd cymunedol mewn cefn gwlad Cymru. Fe’i ffurfiwyd mewn ymateb i alwad ariannu gan UKRI – corff ariannu ymchwil ac arloesi Llywodraeth y DU – sydd â dau gam. Bydd Cam 1 yn cefnogi datblygiad y bartneriaeth a’i chynllun gwaith dros bum mis yn 2023, gan gynnwys ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid. Bydd prosiectau a ariennir yng Ngham 1 yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid Cam 2 ar ddiwedd 2023, a allai ddarparu hyd at £3.5 miliwn o gyllid dros 3 blynedd i gefnogi rhaglen waith ehangach a mwy sylweddol.

Ar adeg cyhoeddi mae’r bartneriaeth PPALI yn aros am hysbysiad o gais Cam 2 UKRI i symud ymlaen â chynlluniau a amlinellir yn y diweddariad hwn.

Pam PPALl Cymru Wledig?

Mae Cymru wledig yn rhanbarth o gymunedau amrywiol sydd, serch hynny, yn wynebu heriau a rennir. Mae anfanteision hirdymor poblogaeth wasgaredig, hygyrchedd gwael, seilwaith cyfyngedig ac economi cyflog isel wedi’u dwysáu gan effeithiau Brecsit a Covid-19. Mae cymunedau yn wynebu colli gwasanaethau, allfudo ieuenctid, tai anfforddiadwy a gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae cyfleoedd newydd a heriau newydd yn deillio o’r argyfwng hinsawdd ac ymrwymiadau i bontio sero net. Fodd bynnag, mae gallu asiantaethau a chymunedau i ymateb i’r heriau hyn wedi’i gyfyngu gan sylfaen dystiolaeth dameidiog a dyddiedig, gyda bylchau mewn cwmpas daearyddol a thematig a’r ymchwil diweddaraf ar rai pynciau sy’n dyddio o waith gan Arsyllfa Wledig Cymru yn 2003-13. Mae gan lawer o gyrff lleol a rhanbarthol yng nghefn gwlad Cymru allu cyfyngedig i ymchwilio neu ddadansoddi oherwydd eu maint bach.

Bydd PPALl Cymru Wledig yn dod ag academyddion, llywodraeth leol, asiantaethau datblygu, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill ynghyd i ddod o hyd i atebion effeithiol i heriau hirsefydlog a newydd. Bydd yn ategu blaenoriaethau’r bargeinion twf rhanbarthol a Chynllun Datblygu Gwledig newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Beth yw cwmpas PPALl Cymru Wledig?

Bydd PPALl Cymru Wledig yn cwmpasu’r naw ardal awdurdod lleol sy’n wledig yn bennaf yng Nghymru: Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn. Bydd yn cyfuno ymchwil, dadansoddi a chyfnewid gwybodaeth ar raddfa ranbarthol gyda ‘deifio dwfn’ i gymunedau lleol penodol. I ddechrau, bydd hyn yn canolbwyntio ar bum ardal beilot o amgylch Corwen, y Drenewydd, Trawsfynydd, gogledd Ceredigion a gogledd-orllewin Sir Benfro, cyn cael ei gyflwyno’n ehangach, gan gynnwys trwy gystadleuaeth agored ar gyfer prosiectau.

Bydd gwaith PPALl Cymru Wledig yn cael ei drefnu o amgylch pedair thema flaenoriaeth a nodwyd trwy gyd- ddylunio gyda rhanddeiliaid: (1) Adeiladu Economi Adfywiol; (2) Cefnogi’r Pontio Sero Net; (3) Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol; a (4) Gwella Lles yn ei Le. Bydd pob maes blaenoriaeth yn cael ei gefnogi gan Grŵp Thematig sy’n cynnwys ymchwilwyr academaidd, rhanddeiliaid, a chynrychiolwyr cymunedol, sydd ag arbenigedd neu ddiddordebau perthnasol, wedi’i gynnull ar y cyd gan Gyd-Arweinwyr Academaidd a Rhanddeiliaid..

Beth fydd PPALl Cymru Wledig yn ei wneud?

Bydd gwaith y PPALl Cymru Wledig arfaethedig yn cael ei rannu dros ddau gam, yn amodol ar ddyfarnu cyllid gan UKRI..

Bydd Cam 1 yn canolbwyntio ar gyd-gynllunio a datblygu’r rhaglen waith partneriaeth ymhellach trwy dair ffrwd waith: (1) Mapio’r Dirwedd Tystiolaeth, gan gynnwys cwmpasu data presennol i nodi bylchau yn y dystiolaeth a chyfleoedd ar gyfer synergedd rhwng data a gedwir gan sefydliadau gwahanol; (2) Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid; a (3) Datblygu Cynnig Partneriaeth a Cham 2. Bydd ymgysylltu â’r gymuned yn rhan fawr o Gam 1, gan gynnwys gweithdai a gweithgareddau eraill yn y pum ardal beilot, gweithio gyda phartneriaid lleol, a fydd yn nodi materion ar gyfer prosiectau ymchwil cychwynnol dan arweiniad y gymuned

yng Ngham 2 ac yn llywio dulliau a modelau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned ac ymchwil. Bydd gweithdai rhithwir hefyd yn cael eu cynnal gyda thimau tystiolaeth awdurdodau lleol, cynghorau cymuned a thref, busnesau, ffermwyr a grwpiau sy’n cynrychioli poblogaethau ‘anodd eu cyrraedd’; yn ogystal â chyfarfodydd gyda Fforwm Gwledig CLlLC, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau allweddol eraill.

Bydd rhaglen waith fanwl Cam 2 yn cael ei ymhelaethu yng Ngham 1 ond rhagwelir y bydd yn cynnwys chwe ffrwd waith: (1) Synergedd Data, Mapio a Dadansoddi, integreiddio data eilaidd o amrywiaeth o ffynonellau i archwilio pynciau penodol a cynhyrchu canolbwynt tystiolaeth ar-lein yn seiliedig ar GIS ar gyfer Cymru wledig; (2) Casglu Data ac Ymchwil Newydd, mynd i’r afael â bylchau tystiolaeth trwy arolygon rhanbarthol a chomisiynu astudiaethau ymchwil ymatebol wedi’u targedu ar faterion sy’n dod i’r amlwg; (3) Ymchwil a arweinir gan y Gymuned, yn gweithio i ddechrau mewn pum ardal beilot ac yn cael ei chyflwyno wedyn trwy gystadleuaeth agored; (4) Arloesi ac Arbrofi, archwilio arloesi gwledig a cheisio dod o hyd i atebion newydd ar gyfer heriau allweddol; (5) Cyfnewid Gwybodaeth, Hyfforddiant a Meithrin Gallu; a (6) Gwerthuso a Myfyrio Beirniadol, gan gynnwys mireinio dulliau ar gyfer cydweithio effeithiol, cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu â’r gymuned.

Bydd pynciau ar gyfer prosiectau ymchwil, dadansoddi ac arloesi yn cael eu llywio gan argymhellion gan y Grwpiau Thematig. Yn ogystal â gwaith gan dîm craidd PPALl, bydd astudiaethau ymchwil ymatebol yn cael eu comisiynu’n gystadleuol a chynhelir cystadleuaeth agored ar gyfer prosiectau ymchwil a arweinir gan y gymuned.

Pwy yw aelodau’r bartneriaeth?

Bydd PPALl Cymru Wledig yn cael ei gydlynu o’r Ganolfan Dyfodol Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda’r Athro Michael Woods yn Gyfarwyddwr PPALl. Mae cydweithwyr academaidd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Bangor (Cyd-gyfarwyddwr: Yr Athro Thora Tenbrink), Prifysgol Caerdydd (Cyd-gyfarwyddwr: Yr Athro Paul Milbourne), a’r Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned (CCRI) ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw (Cyd-gyfarwyddwr : Dr Matt Reed). Bydd y Cyd-gyfarwyddwr Meilyr Ceredig (Sgema) yn arwain ar gydgysylltu busnes ac ar strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu.

Mae aelodau craidd eraill y PPALl yn gyfrifol am ddatblygu ffrydiau gwaith, gan gynnwys yr Athro Scott Orford (Prifysgol Caerdydd; Synergedd Data, Dadansoddi a Mapio), Dr Lowri Cunnington Wynn (Prifysgol Aberystwyth; Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned), Yr Athro James Lewis (Y Lab, Prifysgol Caerdydd; Arloesi); Dr Wyn Morris (Prifysgol Aberystwyth; Cyfnewid Gwybodaeth ac Adeiladu Gallu) a’r Athro Rhys Jones (Prifysgol Aberystwyth; Gwerthuso a Myfyrio Beirniadol); neu fel Cyd-Arweinwyr y Grwpiau Thematig, gan gynnwys Dr Sophie Bennett-Gillison (Prifysgol Aberystwyth) a Bronwen Raine (Antur Cymru) ar gyfer ‘Adeiladu Economi Adfywiol’; Dr Sophie Wynne-Jones (Prifysgol Bangor) a Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig) am ‘Cefnogi’r Pontio Sero Net’; Dr Eifiona Thomas Lane (Prifysgol Bangor) ac Osian Gwynn (Pontio) ar gyfer ‘Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol’; a’r Athro Paul Milbourne (Prifysgol Caerdydd) ac Anna Prytherch (Iechyd a Gofal Gwledig Cymru) am ‘Gwella Llesiant yn ei Le’.

Mae partneriaid cydweithio eraill yn cynnwys Uchelgais Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Un Llais Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Severn Wye, Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Tir Canol, a Gyda’n Gilydd dros Newid. Gellir penodi cyd-ymchwilwyr a phartneriaid pellach yn ystod Cam 1. Bydd PPALl Cymru Wledig yn gysylltiedig â WISERD, gyda chyfraniadau gan Dîm Data WISERD, a bydd cysylltiadau posibl â chanolfannau ymchwil eraill gan gynnwys ADR Cymru, NICRE a CPCC yn cael eu harchwilio yn ystod y Cyfnod 1.

Bydd gwaith y PPALl hefyd yn cynnwys tîm o staff ymchwil, arloesi, ymgysylltu a gweinyddol, i’w penodi. Bydd ymchwilwyr academaidd a rhanddeiliaid nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r PPALl yn gallu cyfrannu drwy ymuno ag un neu fwy o’r Grwpiau Thematig, gan gynnwys o’r tu hwnt i’r prifysgolion craidd.

Camau nesaf

Ar adeg cyhoeddi mae’r bartneriaeth PPALI yn aros am hysbysiad o gais Cam 2 UKRI i symud ymlaen â chynlluniau a amlinellir yn y diweddariad hwn.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This