Grwp ymchwil Prifysgol Abersytwyth yn cyhoeddi adroddiad ARFOR

Chwefror 2024 | Arfor, Sylw

aerial view of city near body of water during daytime

Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad briffio gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS), Prifysgol Aberystwyth o’r enw ‘ARFOR, allfudo a’r Gymraeg: Gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II’. Bwriad yr adroddiad hwn yw crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023. Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil Wavehill, a hynny fel rhan o raglen waith tendr ymchwil 18 mis sydd â’r nod o adolygu a gwerthuso gwaith rhaglen ARFOR II.

Mae Rhaglen ARFOR yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cynlluniau sydd â’r nod o hybu datblygiad economaidd ar draws siroedd y gorllewin, a thrwy hynny, rhoi hwb i ragolygon yr iaith Gymraeg. Cafodd ei sefydlu yn 2019, yn dilyn buddsoddiad cychwynnol o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2022 daeth cadarnhad bod y Llywodraeth yn bwriadu darparu £11 miliwn pellach er mwyn ariannu ail wedd Arfor a fydd yn rhedeg hyd mis Mawrth 2025.

Teitl y gweithdy cyntaf oedd ‘ARFOR, allfudo a’r Gymraeg’. Nod y digwyddiad oedd trafod ymchwil cyfoes o Gymru ar bwnc allfudo ac ystyried ei berthnasedd i waith rhaglen ARFOR II. Cafwyd cyflwyniadau gan Dr Huw Lloyd-Williams (Wavehill), yr Athro Mike Woods (Prifysgol Aberystwyth), Elen Bonner (Prifysgol Bangor) a’r Dr Lowri Cunnington Wynn (Prifysgol Aberystwyth). Mae modd darllen adroddiad cryno Arsyllfa ynghylch y gweithdy cyntaf yma.

Teitl yr ail weithdy oedd ‘ Aros, allfudo neu ddychwelyd? Gosod y profiad Cymreig mewn cyd-destun cymharol’. Bwriad y gweithdy hwn oedd ehangu gorwelion gan drafod ymchwil sydd wedi astudio allfudo mewn ystod o gyd-destunau Ewropeaidd eraill. O ganlyniad cafwyd cyflwyniadau gan Dr Caitríona Ni Laoire (Coleg Prifysgol Corc), Dr Rosie Alexander (Prifysgol Gorllewin yr Alban), yr Athro Tialda Haartsen (Prifysgol Groningen, yr Iseldiroedd) a’r Dr Annett Steinfuhrer (Sefydliad Materion Gwledig Thünen, yr Almaen). Mae modd gwylio’r ail weithdy yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Mae’r adroddiad yn crynhoi prif gasgliadau’r gweithdai ac yn tynnu sylw at ganfyddiadau allai fwydo i waith rhai o raglenni cyfredol ARFOR. Trefnwyd yr adroddiad ar sail thematig a caiff thai o’i brif gasgliadau eu crynhoi isod:

  • Deall a dehongli tueddiadau mudo trwy ddefnyddio modelau cwrs bywyd: Bu tuedd mewn ymchwil academaidd i ddefnyddio modelau cwrs bywyd er mwyn deall a dehongli penderfyniadau mudo gwahanol unigolion, er enghraifft penderfyniadau i allfudo o ardaloedd gwledig neu benderfyniadau i ddychwelyd maes o law. Dylid hefyd ystyried sut gellir gwneud defnydd pellach o fodelau fel hyn i gefnogi a mireinio ymyraethau polisi sy’n ceisio ymateb i allfudo. Mae modelau cwrs bywyd yn helpu i amlygu’r gwahanol gyfnodau sy’n nodweddu bywyd unigolion (plentyndod, oedolyn ifanc, canol oed, ymddeol), y gwahanol benderfyniadau bywyd a wynebir yn ystod y cyfnodau hyn a’r modd y mae penderfyniadau ynglŷn â ble rydym yn dewis byw yn debygol o godi ar rai adegau allweddol.
  • Agweddau siaradwyr Cymraeg ifanc tuag at fywyd yng nghefn gwlad Cymru: Mae gwaith ymchwil diweddar, sydd yn cael ei drafod ymhellach yn yr adroddiad, wedi awgrymu bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn tueddu i fod yn fwy cadarnhaol na Chymry ifanc eraill ynglŷn â bywyd yn mewn ardal wledig, a’u bod yn fwy tebygol o fod eisiau parhau i fyw yn eu hardal leol, neu ddychwelyd yno petaent yn symud i ffwrdd. Fodd bynnag, mae’r ymchwil hwn hefyd yn awgrymu bod y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg ifanc yn tybio y bydd angen iddynt symud o’u hardal leol i gael gwaith cyflogedig, addysg neu rywle i fyw, gyda thraean ohonynt yn rhagweld y byddant yn symud tu allan i Gymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
  • Creu teipolegau o agweddau pobl ifanc o Gymru ynglŷn â mudo: Dylid edrych am ffyrdd i rannu pobl ifanc o Gymru yn gategorïau gwahanol ar sail eu hagweddau neu ddisgwyliadau ynghylch mudo a dylid defnyddio’r teipolegau hyn er mwyn mireinio ymyraethau polisi sy’n ceisio ymateb i allfudo. Mae gwaith ymchwil diweddar yng Nghymru yn cynnig teipolegau posib y gellid ei defnyddio er mwyn cefnogi’r gwaith hwn. Byddai defnyddio’r teipolegau hyn yn helpu i amlygu’r gwahanol fathau o grwpiau sydd angen eu hystyried (e.e. arhoswyr, ymadawyr, dychwelwyr) a’r graddau y dylai ymyraethau anelu at flaenoriaethu rhai ohonynt.
  • Ffactorau sy’n cymell allfudo: Mae ymchwil academaidd yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn pwysleisio bod allfudo gwledig ymhlith pobl ifanc yn ffenomen sy’n cael ei yrru gan ystod o ffactorau gwahanol sy’n torri ar draws ei gilydd. Golyga hyn y dylid gochel rhag trafod allfudo, neu ddatblygu ymyraethau polisi sy’n ceisio ymateb iddo, gan dybio bod modd canolbwyntio ar un neu ddau ffactor allweddol. Yn benodol, dylid gochel rhag trin allfudo fel ffenomen sydd ond yn ymwneud ag ystyriaethau economaidd fel swyddi, gyrfa a chyflog.
  • Ffactorau sy’n dylanwadu ar fudo dychweliadol: Fel yn achos allfudo, mae ymchwil academaidd hefyd yn dangos y gall ystod o ffactorau gwahanol ddylanwadu benderfyniadau i fudo yn ôl i ardal wledig. Eto, mae’r ymchwil hwn dangos bod penderfyniadau o’r fath yn aml yn cael eu llywio gan fwy na dim ond ystyriaethau economaidd, a bod ystyriaethau teuluol ynghyd â’r syniad cyffredinol o ‘setlo i lawr’ yn medru bod yn flaenllaw. Ymhellach, mae’r ymchwil yn dangos bod mudo dychweliadol yn ystyriaeth a ddaw’n fwy blaenllaw ar adegau penodol mewn bywyd, ac y dylid trin y30au cynnar fel cyfnod arbennig o arwyddocaol.
  • Rhoi sylw haeddiannol i gymhellion ‘arhoswyr’: Deall cymhellion y bobl ifanc sy’n penderfynu allfudo neu gymhellion y sawl sy’n penderfynu dychwelyd sydd fel arfer yn hawlio’r sylw mewn gwaith ymchwil academaidd a thrafodaethau polisi. Fodd bynnag, dylid hefyd rhoi sylw neilltuol i’r ‘arhoswyr’ fel rhan o drafodaethau ynglŷn â dyfodol cymdeithasau gwledig. Wrth wneud hyn, dylid gochel rhag darlunio ‘arhoswyr’ fel grŵp sydd naill ai wedi ‘methu’ neu ‘wedi’u gadael ar ôl’ a dylid cloriannu y graddau bod rhaglenni polisi cyfredol mewn meysydd megis addysg, sgiliau neu ddatblygu economaidd yn cyfrannu at gymell argraff o’r fath. Rhaid hefyd cydnabod nad rhywbeth sy’n digwydd unwaith yw’r penderfyniad i aros, ond yn hytrach proses all gael ei ailadrodd ar sawl achlysur yn ystod cwrs bywyd unigolyn a hynny o dan amgylchiadau gwahanol.

Mae modd darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ar ffurf PDF yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This