Adroddiad Cyfarfod Mudo ARFOR

Tachwedd 2023 | Arfor, Sylw

Ar ddydd Gwener 3 Tachwedd 2023, daeth nifer o’r rheini sydd yn rhan o raglen ARFOR ynghyd ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn digwyddiad a drefnwyd gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Bwriad y diwrnod oedd mynd i’r afael â chwestiynau megis arwyddocâd mudo, yr hyn sy’n cymell pobl i symud o ardaloedd megis ARFOR, a pha fath o bolisïau gellid eu hystyried er mwyn sicrhau dyfodol cymunedau Gogledd a Gorllewin Cymru.

Yn rhan gyntaf y sesiwn cafwyd sawl cyflwyniad gan amryw o academyddion ar oblygiadau mudo ar ardaloedd y rhanbarth, oedd yn sail i drafodaeth fuddiol yn ail ran y sesiwn lle’r oedd cyfle i bawb sgwrsio ynghylch yr hyn yr oeddent yn ei weld fel arwyddocâd ARFOR a’r hyn y dylid ystyried wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.

I agor y diwrnod gosododd Dr. Huw Lewis, un o drefnwyr y digwyddiad, sawl cwestiwn creiddiol ger bron y rheini oedd yn bresennol, iddynt gael ystyried wrth i’r dydd fynd yn ei flaen.

  • Beth yw’r tueddiadau cyfoes o ran allfudo ar draws rhanbarth ARFOR?
  • Pa fath o ffactorau sy’n dylanwadu ar dueddiadau allfudo ar draws rhanbarth ARFOR?
  • A oes unrhyw gasgliadau y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ARFOR II a’i ffrydiau gwaith?

Roedd y cyflwyniadau a gafwyd i ddilyn oll yn gyfraniadau gwerthfawr wrth geisio mynd ati i ateb y cwestiynau hyn.

Yn gyntaf cafwyd cyflwyniad gan Dr. Huw Lloyd-Williams o gwmni Wavehill ar rai o ystadegau mudo creiddiol ardaloedd ARFOR. Roedd ei waith yn dangos, efallai yn groes i’r disgwyl, fod patrwm allfudo o ran canran yn debyg o gymharu ardal ARFOR o gymharu â Chymru gyfan a bod canrannau tebyg o bobl ifanc yno yn ôl yr ystadegau. Ynghyd a hyn, cafwyd trosolwg ystadegol o’r ardaloedd sirol unigol, a ffigurau mewnfudo ac allfudo’r ardaloedd hynny yn eu tro.

Yn dilyn hyn cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Mike Woods o Brifysgol Aberystwyth oedd yn edrych ar ddyheadau gyrfaol pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig ac yn craffu ar rhai o’r rhesymau yr oedd pobl ifanc yn gweld yr angen i aros neu symud o’u hardaloedd genedigol. Roedd y cyflwyniad yn seiliedig ar ddarn o waith ymchwil sylweddol a wnaethpwyd ar y cyd gyda chanolfan WISERD.

Yn dilyn egwyl cafwyd cyflwyniad wedi ei gyflwyno gan Elen Bonner sy’n darlithio ac yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei gwaith ymchwil yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd fel rhan o ymgais i greu ‘teipoleg o benderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg’ ac felly deall yn well pam yn union mae pobl yn mudo o ardaloedd penodol. Mae’r gwaith arloesol hwn yn siŵr o fod yn ddylanwadol wrth i’w hymchwil barhau.

Wedyn bu Dr. Lowri Cunnington-Wynn, eto o Brifysgol Aberystwyth, yn rhoi trosolwg o’i gwaith ymchwil hithau yn edrych ar gymunedau Ffestiniog a’r pwysigrwydd y mae pobl yn ei roi ar amryw ffactorau sy’n effeithio eu cymuned. Dadleuodd Lowri nad ffactorau economaidd yw prif ystyriaeth pobl Ffestiniog bob tro wrth benderfynu aros yn eu hardal ond yn hytrach ei bod yn fwy tebygol o gyfeirio at deulu, iaith, cymuned ac ymdeimlad o berthyn a ffactorau tebyg wrth esbonio eu penderfyniad.

Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o raglen waith ehangach dan ofal Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â chwmni ymchwil Wavehill, sydd â’r nod o adnabod gwersi o waith ymchwil cyfoes all ddylanwadu gwaith ARFOR. Ffocws y gwaith hyd yma fu canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth fwy crwn o natur allfudo wledig ac yn ôl Dr. Huw Lewis y bwriad yw paratoi adroddiad cryno sy’n crynhoi canfyddiadau allweddol, gan gynnwys casgliadau pwysig a gododd yn ystod y gweithdy yn Aberystwyth. Gwêl Dr. Lewis hyn fel rhan o broses barhaus o werthuso a dadansoddi gweithgarwch ARFOR wrth ei bod yn mynd yn ei flaen, yn enw dylanwadu ac ysgogi sgwrs ynghylch y gwaith cyn terfyn Rhan II o’r rhaglen yn 2025. Dywedodd Dr. Huw Lewis:

‘Er mwyn cefnogi gwaith rhaglen ARFOR mae’n allweddol ein bod yn datblygu dealltwriaeth gyflawn o’r ffactorau sy’n medru gyrru allfudo – pa mor arwyddocaol yw ffactorau megis tai neu swyddi, ond hefyd pa mor arwyddocaol yw ffactorau cymdeithasol neu rai sy’n ymwneud a dyheadau personol. Roedd y gweithdy yn gyfle da i drafod cwestiynau fel hyn a byddwn yn anelu i grynhoi rhai o brif gasgliadau’r diwrnod yn yr adroddiad y bwriedir ei gyhoeddi maes o law.’

I ddysgu mwy am raglen ARFOR, a digwyddiadau cyffelyb sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol, cadwch olwg ar wefan Arsyllfa, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr, a dilynwch ni @Arsyllfa ar X/Twitter.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This