Ffermwyr yn cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus wrth i feirws y tafod glas gael ei ganfod yng Nghaint

Tachwedd 2023 | Polisi gwledig, Sylw

brown cow on green grass field during daytime

Mae ffermwyr ar draws y DU wedi eu hannog i fod yn wyliadwrus wedi i’r achos cyntaf o glefyd y tafod glas ers 16 mlynedd gael ei ganfod yng Nghaint. Canfuwyd un achos o’r feirws mewn buwch ar fferm odro ger Caergaint yn Lloegr ac mae profion ychwanegol yn cael eu cynnal i sicrhau taw ond un achos sydd. Mae ardal reoli o 10km wedi ei osod o gwmpas y fferm, ac mae cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn eu lle.

Mae haint y tafod glas yn feirws sy’n cael ei drosglwyddo gan biwiaid, ac yn effeithio defaid, gwartheg, geifr, ceirw a nifer o anifeiliaid eraill. Mae’r afiechyd yn achosi clwyfau a chwyddo ar bennau ac yng nghegau anifeiliaid. Mae arwyddion clinigol fod haint y tafod glas yn bresennol mewn defaid yn cynnwys briwiau yng ngheg yr anifail, llif trwchus o’r trwyn a’r geg a chwyddo yng ngheg, pen a gwddf y ddafad. Mewn gwartheg mae’r arwyddion yn cynnwys chwyddo a briwiau yng ngheg yr anifail, llif o’r trwyn, croen a llygaid coch o ganlyniad i waed yn casglu a thethi wedi chwyddo a blinder.

Mae nifer o wahanol fathau o’r afiechyd yn cylchredeg yn Ewrop ar hyn o bryd. Gall yr afiechyd ledu ar draws y sianel o Ewrop i Loegr ar y gwynt, gyda’r lefel risg o hynny’n digwydd yn ddibynnol ar lefelau’r haint ar y cyfandir, amodau tywydd megis cyfeiriad y gwynt a’r tymheredd. Mae modd hefyd i’r haint ledu drwy gyfrwng anifeiliaid wedi eu heintio yn cario’r afiechyd gyda nhw o ardaloedd lle mae’r haint yn bresennol. Er nad yw’r tafod glas yn afiechyd sy’n uniongyrchol heintus rhwng anifeiliaid, mae symud anifeiliaid o ardaloedd lle mae lefelau uchel o’r haint yn bresennol yn peri risg.

Am gyngor ynghylch yr hyn i wneud os yr ydych yn amau fod yr haint yn bresennol yn eich anifeiliaid, ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This