Hybu Cig Cymru yn dathlu carreg filltir cynaliadwyedd

Tachwedd 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae Hybu Cig Cymru wedi croesawu canfyddiadau archwiliadau newydd sy’n dangos cynaliadwyedd ffermydd mynydd ac ucheldir Cymru. Mae’r archwiliadau, oedd yn edrych ar fioamrywiaeth ar dir ffermydd tiroedd uchel Cymru, yn golygu fod Hybu Cig Cymru wedi gallu sefydlu meincnod ar gyfer bioamrywiaeth bydd yn galluogi gwell monitro o effaith amaethyddiaeth ar yr amgylchedd leol. Cafodd yr ymchwil ei gynnal ar draws 25 fferm yng Nghymru gan gynnwys mwy na 4,000 hectar o dir ac yn dangos yr amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau sydd i’w canfod ar ucheldiroedd Cymru.

Mae’r prosiect yn rhan o nod hir dymor Hybu Cig Cymru i hyrwyddo cynaladwyedd oddi fewn i’r diwydiant cynhyrchu cig coch yng Nghymru ac i sicrhau bod egwyddorion amgylcheddol yn rhan hanfodol o esblygiad y diwydiant. Mae HCC yn gobeithio o gasglu data o’r fath ynghyd, mae modd ennyn dealltwriaeth o natur y cynefinoedd sydd i’w canfod ar dir o’r math hwn, ac ychwanegu at y sylfaen o dystiolaeth sydd yn bodoli sy’n dangos fod cynhyrchu cig yn y modd hwn yn gallu bod yn gynaliadwy.

Dywedodd Rachael Madeley-Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC:

‘Mae datblygu’r adroddiad hwn ar fioamrywiaeth yn gam cyntaf hollbwysig wrth i ni gyrraedd ein nod hirdymor o gynnig tystiolaeth bod ffermydd Cymru nid yn unig yn cynhyrchu cig coch o’r radd flaenaf, ond hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu a chynnal cynefinoedd.

Mae pob fferm yn cyflawni llawer mwy na dim ond cynhyrchu da byw; mae popeth – o reoli tirweddau, diogelu bywyd gwyllt, gwarchod llif dŵr, a hyrwyddo llwybrau mynediad cyhoeddus – yn chwarae rhan wrth feithrin ardaloedd bioamrywiol.

Trwy’r gwaith sylfaenol hwn, bydd gwaddol y Cynllun Hyrddod Mynydd yn cael ei gryfhau wrth i ni feithrin ymhellach y berthynas rhwng amaethyddiaeth gynaliadwy a chadwraeth ecolegol, er mwyn cynnal ecosystem ffyniannus am genedlaethau i ddod.’

Gallwch ddysgu mwy am yr adroddiadau drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Hybu Cig Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This