Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn lansio adroddiad ar ymchil prifysgolion

Tachwedd 2023 | Sylw

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi lansio adroddiad newydd sy’n edrych ar enghreifftiau o ymchwil ym mhrifysgolion Cymru, a’r effaith y mae’r ymchwil hwn yn ei gael tu hwnt i academia ar ein cymdeithas ac ar ein modd o fyw. Comisiynwyd Coleg King’s Llundain i edrych ar 280 astudiaeth achos a gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (Research Excellence Framework neu REF) 2021 er mwyn darparu trosolwg nid yn unig o’r math o ymchwil sy’n cael ei gynnal yng Nghymru, ond er mwyn dadansoddi a meintioli rhai o’r allbynnau allweddol sy’n dyfod ohono.

Canlyniad yr arolwg hwn yw’r adroddiad ‘Effeithiau ymchwil prifysgolion Cymru’ sy’n cofnodi cyraeddiadau gwaith ymchwil, ac yn pwysleisio’r ffaith iddo gael effaith dirnadwy ar fywydau dydd i ddydd pobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae hefyd modd darllen adroddiad ‘Creu Effaith’ sy’n amlinellu mewn modd mwy cryno, prif ganfyddiadau’r gwaith gan King’s.

Cafodd yr adroddiad ei ariannu ar y cyd rhwng y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru ac yn dangos sawl tueddiad penodol i natur gwaith ymchwil yng Nghymru. Roedd bron i chwarter o’r ymchwil a astudiwyd yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc, gyda 25 o wahanol fath o grwpiau o bobl yn elwa oherwydd ymchwil o’r fath, megis gofalwyr, yr henoed a gwneuthurwyr polisi. Yn ôl yr adroddiad mae 70% o’r ymchwil a gynhelir yn cael effaith oddi fewn i Gymru ond hefyd dros 60% yn cael effaith rhyngwladol yn llefydd megis Awstralia, Tseina, Norwy a Siapan.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

‘Mae’r dadansoddiad hwn yn tanlinellu rôl aruthrol prifysgolion Cymru o ran meithrin ymchwil ac arloesi ac ail lunio gwead cymdeithas. Nid yn unig y mae’n dang os ymrwymiad ac arbenigedd ein cymuned academaidd, ond mae hefyd yn adlewyrchu cred ddiysgog Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng ngrym trawsnewidiol gwybodaeth er budd Cymru a thu hwnt. Wrth i’r DU edrych ymlaen at gysylltiad llawn â rhaglen Horizon Europe,ryd ym yn obeithiol ynghylch y cyfleoedd cydweithredol cynyddol a’r potensial ar gyfer mwy fyth o gyfleoedd am d datblygiad cymdeithasol yn y dyfodol.’

Am fwy o wybodaeth am yr adroddiad, neu i ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, ewch i wefan Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This