RenewableUK Cymru yn cyhoeddi adroddiad newydd yn galw am gynllun ynni uchelgeisiol

Tachwedd 2023 | Di-gategori

Mae adroddiad newydd gan RenewableUK Cymru wedi galw am gynllun ynni uchelgeisiol i Gymru, gan ddatgan bod potensial i gynhyrchu 9GW gan felinau gwynt dros y deng mlynedd nesaf os dilynir eu hargymhellion. Daeth cyhoeddiad yr adroddiad yn ystod eu cynhadledd yng Nghasnewydd i drafod dyfodol y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn dadlau bydd y mwyafrif helaeth o’r ynni bydd angen ei gynhyrchu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ateb gofynion ynni Cymru drwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2035 yn dod drwy gyfrwng ynni melinau gwynt. Bydd yn rhaid i’r melinau gwynt hyn fod ar y lan ac ar y môr, gyda’r gweddill o’r ynni angenrheidiol i gyrraedd y targed yn cael ei gynhyrchu drwy ffynonellau solar, hydro, llanw ac eraill.

Un o amcanion yr adroddiad yw cymharu llwyddiant Cymru o gymharu â gweddill gwledydd y DU. Eto, mae’r adroddiad yn datgan er bod yna nifer helaeth o brosiectau ar y gweill yng Nghymru, mae dros dri chwarter o’r capasiti heb ei adeiladu eto, a hanner y prosiectau yn y camau cychwynnol yn unig. Mae RenewableUK Cymru yn dweud fod hyn yn golygu bod yn rhaid i Gymru gynyddu’r ddarpariaeth ynni adnewyddadwy pedair gwaith drosodd o’r 2 GW a gynhyrchir ar hyn o bryd i’r 9 GW sydd ei angen erbyn 2035.

Dywedodd Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru, Jess Hooper:

‘Ynni gwynt yw asgwrn cefn uchelgais sero net Cymru, eto mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad oes digon yn cael ei wneud i feithrin twf yr asgwrn cefn hwnnw. O ganlyniad, mae’r peryg y bydd Cymru yn methu a chyflenwi’r angen cynhyrchu ynni erbyn 2035. Am flynyddoedd mae cyfyngiadau cysylltiadau grid gwael a system gynllunio anghyson a heb yr adnoddau angenrheidiol wedi llesteirio cynnydd ac wedi atal datblygwyr rhag dilyn y prosiectau gwynt uchelgeisiol sydd dirfawr angen ar ein gwlad i lwyddo.

Gwelwn fod awyrgylch polisi mwy cadarnhaol tuag at ddatblygiad yn ymddangos bellach yng Nghymru, er enghraifft, bydd cyflwyniad y Bil Seilwaith (Cymru) yn 2025 yn cydgrynhoi’r broses gynllunio. Eto, mae dirfawr angen penderfyniadau amserol, cyson ac eglur a buddsoddiad yn ein grid gan Lywodraeth Cymru arnon ni i ddechrau’r siwrnai i sero net. Os na awn i’r afael a’r materion hyn, mae peryg i botensial gwynt Cymru chwythu uwch ein pennau yn hytrach na llenwi’r hwyliau.’

Mae modd darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ar wefan RenewableUK Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This