Llywodraeth Cymru yn darparu £1 miliwn i brosiectau lleihau amonia

Tachwedd 2023 | Polisi gwledig, Sylw

a group of black and white cows in a pen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod am ddarparu £1 miliwn i brosiectau sydd yn gallu dangos eu bod yn gallu lleihau allyriadau amonia. Yn aml gall amonia, ynghyd a methan, carbon a ffosffadau fod yn un o brif allyriadau sy’n deillio o amaethu da byw, a bwriad y gronfa hon yw cynorthwyo ffermwyr er mwyn lleihau’r llygredd sy’n gallu deillio o allyriadau o’r fath.

Mae’r cynllun yn un o Fentrau Ymchwil Busnesau Bach y Llywodraeth a’r nod yw ceisio cynorthwyo busnesau i ddatblygu nwyddau a gwasanaethau arloesol bydd yn gallu helpu lleihau’r effaith y mae allyriadau amonia yn ei gael ar diroedd, dyfroedd a’r atmosffer. Mae amonia atmosfferig yn deillio o wastraff anifeiliaid yn pydru’n naturiol, gyda chyfraddau uchel o allyriadau i’w gweld yn y diwydiant gwartheg ac yn benodol y diwydiant llaeth. Mae unrhyw ddatrysiad sy’n arwain at leihad mewn allyriadau o’r fath sydd hefyd yn caniatáu i’r ffarmwr gynnal yr un lefel o gynhyrchu yn rhywbeth gall fod yn adnodd hynod o werthfawr i’r diwydiant.

Bydd gan fusnesau’r cyfle i roi pecyn gwybodaeth ynghyd i ddangos sut mae eu prosiectau yn gallu lleihau allyriadau amonia, ac yn cyd-fynd a rhestrau ansawdd aer y DU.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

‘Mae mynd i’r afael ag allyriadau amonia yng Nghymru yn fater pwysig.

Rydyn ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o allyriadau amonia’n dod o’r sector amaeth ac felly mae’r her rydyn ni’n ei rhoi i fusnesau yn canolbwyntio’n bennaf ar hyn.

Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r ffordd rydym yn mynd i’r afael â’r mater hwn i wneud cais am gymorth.’

Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, ewch i’r dudalen hon a reolir gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This