Creu gwaith i gefnogi’r iaith?

Tachwedd 2023 | Arfor, Sylw

Gan Dr. Huw Lewis, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth

‘Creu Gwaith – Cefnogi’r Iaith’ yw arwyddair ARFOR ac mae deunydd y rhaglen yn nodi’r bwriad i dargedu ymyraethau fydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg. Fodd bynnag, pa fath o gynlluniau creu gwaith sy’n debygol o gael effaith gadarnhaol ar y defnydd dydd-i-ddydd o’r Gymraeg ar draws y rhanbarth?

Ers degawdau, mae’r ymadrodd ‘creu gwaith i gadw’r iaith’ wedi britho trafodaethau ynglŷn â dyfodol y Gymraeg, ymysg ymgyrchwyr a llunwyr polisi, yn enwedig wrth drafod  rhagolygon yr iaith ar draws siroedd y gorllewin. Ceir arfer digon tebyg yn Iwerddon hefyd gyda, ‘no jobs, no people; no people, no Gaeltacht’, yn gyfarwydd iawn ymysg cefnogwyr y Wyddeleg.

Ymhlyg yn y datganiadau hyn mae’r dybiaeth y bydd sicrhau cyfleoedd gwaith digonol mewn ardaloedd lle mae canrannau uwch o’r boblogaeth yn medru iaith leiafrifol yn cyfrannu at gadw pobl yn yr ardaloedd hynny ac, o ganlyniad, yn helpu i sicrhau bod yr iaith yn parhau i gael ei siarad.

Wrth gwrs, tybiaeth debyg fu’n sail i ddatblygu rhaglen ARFOR a’i ffrydiau gwaith. Gwelir hyn yn glir yn logo’r rhaglen – ‘Creu Gwaith: Cefnogi’r Iaith’ – ac yn natganiad pwrpas ARFOR II sy’n ymddangos yn y prosbectws:

‘Cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol’ (t. 8).

Fodd bynnag, er bod y cyswllt rhwng ‘creu gwaith’ a ‘chefnogi’r iaith’ yn medru ymddangos yn gwbl reddfol a rhesymol wrth drafod ar lefel gyffredinol, mae’n bwysig osgoi trin y cyswllt rhwng y ddau fel hafaliad syml, gan gymryd bod un yn anochel o arwain at y llall.

Fel y rhybuddiodd Wilson McLeod wrth gloriannu trafodaethau yn yr Alban ynglŷn â’r dull gorau o gefnogi’r Aeleg ar draws ardaloedd y Gàidhealtachd: ‘Connecting language development to economic development is an important but sensitive task, for the two objectives are by no means identical.’

Beth felly yw’r ystyriaethau ddylai fod yn flaenllaw wrth gloriannu’r math o gynlluniau creu cyflogaeth sy’n debyg o gefnogi rhagolygon y Gymraeg ar draws rhanbarth ARFOR, ac yn benodol annog defnydd pellach o’r iaith?

Pa waith sy’n hybu defnydd iaith?

Cam cyntaf cyfarwydd ydi ystyried y graddau y gall datblygiad cyflogaeth mewn ardal benodol effeithio ar dueddiadau mewnfudo gan unigolion neu deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg. Rhywbeth cyfarwydd i ni yma yng Nghymru yw profiad yr Iwerddon yn ystod y 1960au a’r 1970au, pan roddwyd pwyslais ar ddenu mewnfuddsoddiad drwy ddatblygiadau diwydiannol mawr i ardaloedd y Gaeltacht. Llwyddwyd i greu nifer sylweddol o swyddi ar sail y strategaeth hon, ond y consensws erbyn hyn yw bod natur y datblygiadau gafodd eu blaenoriaethu wedi prysuro’r shifft tuag at y Saesneg ar draws y Gaeltacht trwy annog mewnfudo gan weithwyr nad oedd yn siarad Gwyddeleg. O ystyried hyn, mae’n beth da bod camau wedi’u cymryd yng Nghymru i ddatblygu prosesau o fewn y drefn gynllunio ar gyfer asesu effaith datblygiadau mawr ar y defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal – er rhaid hefyd cydnabod y pryderon a fynegir ynglŷn ag effeithiolrwydd y prosesau hyn.

Eto i gyd, ai dyma’r unig ystyriaeth berthnasol yn achos ARFOR? Os nad yw’r cynlluniau creu swyddi yn rhai sy’n cymell mewnfudo eang gan weithwyr sydd ddim a’r gallu i siarad Cymraeg a ellir tybio y bydd yr effaith ar sefyllfa’r iaith, ac yn arbennig ar y defnydd dydd-i-ddydd ohoni, yn gadarnhaol?

Wrth ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol dechrau trwy sefydlu dealltwriaeth gliriach o’r gwahanol ffyrdd y gall swyddi penodol, neu’r gweithleoedd sy’n gysylltiedig a hwy, ddylanwadu ar ddefnydd unigolion o’r Gymraeg. Ystyriwyd y cwestiwn hwn mewn adroddiad blaenorol gan IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith. Gwneir sylwadau perthnasol hefyd mewn adroddiad diweddar o eiddo Llywodraeth Cymru. Gan gyfuno elfennau o’r trafodaethau hyn, gellir defnyddio’r categorïau canlynol fel canllaw er mwyn dechrau ystyried y graddau bod swyddi gwahanol yn dylanwadu ar ddefnydd dydd-i-ddydd unigolion o’r Gymraeg:

  • Defnydd llafar neu ysgrifenedig o’r Gymraeg â chydweithwyr er mwyn cyflawni gofynion y swydd (iaith gwaith mewnol).
  • Defnydd llafar neu ysgrifenedig o’r Gymraeg â chwsmeriaid neu bobl o’r tu allan i’r cwmni/sefydliad er mwyn cyflawni gofynion y swydd (iaith gwaith allanol).
  • Defnydd llafar neu ysgrifenedig o’r Gymraeg â chydweithwyr wrth drafod materion anffurfiol nad sy’n ymwneud â gwaith (iaith yn y gwaith).

Yna, wrth ystyried pa fath o ffactorau sy’n medru dylanwadu ar faint o ddefnydd a wneir o’r Gymraeg ar draws y cyd-destunau gwaith hyn, gallwn droi at ganlyniadau Arolygon Defnydd Iaith y degawd diwethaf. Mae rhan o’r arolygon hyn wedi canolbwyntio ar fesur y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, gan awgrymu bod y canlynol yn ffactorau arwyddocaol:

  • A yw’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg wedi’i nodi yn y swydd-ddisgrifiad neu fanyleb y swydd? Er enghraifft, mae Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn dangos bod y defnydd o’r Gymraeg wrth gyflawni dyletswyddau’r swydd, gan gynnwys defnyddio sgiliau darllen ac ysgrifennu, yn codi’n sylweddol, pan fo gafael o’r iaith wedi’i nodi fel elfen hanfodol o’r swydd-ddisgrifiad.
  • Pa ganran o’r cydweithwyr yn y gweithle sy’n medru siarad Cymraeg hefyd? Er enghraifft, awgrym Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yw bod siaradwyr Cymraeg mewn gweithleoedd lle mae cyfran lai o gydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg, yn llai tebygol o ddefnyddio’r iaith (hyd yn oed â chydweithwyr sy’n siarad Cymraeg) na’r rhai sy’n gweithio mewn gweithleoedd lle mae cyfran fwy o gydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg. Awgryma’r arolwg hefyd bod y duedd hon yn gyson wrth drafod materion sy’n ymwneud â gwaith neu wrth drafod materion nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith.
  • Beth yw’r ganran o boblogaeth yr ardal ble lleolir y swydd sy’n medru siarad Cymraeg? Er enghraifft, awgryma Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 ac Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 bod siaradwyr Cymraeg yn fwy tebyg o ddefnyddio’r iaith ym mhob ffordd – wrth drafod materion sy’n ymwneud â gwaith, wrth drafod materion nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith, neu wrth ymwneud a chwsmeriaid neu bobl allanol eraill – pan fo poblogaeth yr ardal yn cynnwys canran uwch o siaradwyr.

Ar ben hyn, mae adroddiad 5 mlynedd diweddaraf Comisiynydd y Gymraeg, Sefyllfa’r Gymraeg 2016-20, yn pwysleisio arwyddocâd gweithleoedd sydd â pholisi – ffurfiol neu de facto – sy’n sefydlu’r Gymraeg fel yr iaith weinyddol fewnol. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae’n debyg y bydd y mwyafrif llethol o staff y sefydliad neu’r cwmni yn siaradwyr Cymraeg a rhan fwyaf y cyfathrebu, ffurfiol neu anffurfiol, ar bob lefel, yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg (t. 162).

Tra bod y pwyntiau uchod yn ddefnyddiol, mae cyfyngiadau i’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Er enghraifft, darlun cyffredinol ar adegau penodol mewn amser geir gan yr Arolygon Defnydd Iaith. Ar ben hynny, ac yn bwysicach, heb fynd i ymchwilio ymhellach nid oes modd asesu dylanwad cymharol gwahanol ffactorau ar y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.

Gwersi i ARFOR?

Beth felly yw perthnasedd hyn i waith ARFOR? Gwelwyd uchod pa fath o ffactorau all effeithio ar y graddau bod datblygiadau swyddi gwahanol yn debygol o annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Gallai rhaglen ARFOR II gynnig cyfle i werthuso arwyddocâd y ffactorau hyn ymhellach. Er enghraifft, ai’r ganran o boblogaeth ardal sy’n siarad Cymraeg yw’r ffactor mwyaf dylanwadol, neu a yw elfennau fel gofynion ieithyddol y swydd neu bolisi iaith mewnol y gweithle yn fwy arwyddocaol. Mae’n bosib y gall gweithgaredd rhaglen ARFOR gynnig atebion manylach i’r cwestiynau yma.

Eto i gyd, tra bod galw am ymchwilio pellach, mae modd amlinellu rhai disgwyliadau yma. Yn gyntaf, ar y lefel mwyaf cyffredinol, mae’n ymddangos fel pe bai’r graddau bydd datblygiad cyflogaeth penodol yn cyfrannu at gefnogi neu gynyddu’r defnydd dydd-i-ddydd o’r Gymraeg yn dibynnu ar y berthynas rhwng: i) ffactorau o ran proffil ieithyddol yr ardal (e.e. y nifer a’r ganran o siaradwyr Cymraeg); a ii) ffactorau’n gysylltiedig â natur ieithyddol swydd neu’r gweithle (e.e. natur y swydd-ddisgrifiad, nifer y cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd, neu cyfrwng gweinyddu mewnol y gweithle).

Yn ail, o ystyried y cyfuniad hyn o ffactorau, dylid osgoi disgwyl y bydd creu unrhyw swyddi yn ardal ARFOR yn hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Os yw’r swyddi’n rhai sydd heb unrhyw ofynion clir o ran y Gymraeg, yna mae’n bosib y byddai’r effaith ar y defnydd dydd-i-ddydd o’r iaith yn yr ardal yn amwys. Mae’n bwysig cydnabod y gallai creu’r math hyn o swyddi gyfrannu at geisio cadw unigolion sy’n medru’r Gymraeg yn yr ardal, neu eu denu’n ôl, ac y byddai hynny’n dylanwadu ar y darlun demo-ieithyddol sylfaenol (h.y. y nifer o bobl yn yr ardal sy’n medru’r iaith a maint y grŵp yma fel canran o’r boblogaeth). Ond os taw’r pwyslais pennaf ydi’r cyswllt tebygol rhwng creu swyddi a chynyddu defnydd dyddiol o’r iaith – fel sydd ymhlyg yn natganiad pwrpas ARFOR II – rhaid cydnabod bod ffactorau sy’n ymwneud â gofynion ieithyddol y swyddi neu natur y gweithleoedd yn berthnasol hefyd.

Yn drydydd, mae’n debyg y gallai datblygiadau cyflogaeth sydd â gofynion clir o ran y Gymraeg fod yn arwyddocaol mewn ardaloedd lle mae sefyllfa’r iaith ychydig yn wannach. Gall hyn fod yn berthnasol iawn i waith ARFOR. Fel eglurodd Elin Royles mewn blog arall, tra bod tuedd yng nghynllun strategol ARFOR i roi’r argraff bod sefyllfa’r Gymraeg yn gymharol gyson ar draws y rhanbarth, yn ymarferol ceir cryn dipyn o amrywio. Nid yn unig bod dwysedd siaradwyr Cymraeg yn amrywio’n sylweddol ar draws (ac o fewn) y bedair sir, mae ffactorau pwysig eraill fel cyfraddau trosglwyddo iaith o fewn y teulu neu arferion defnydd iaith cymdeithasol yn amrywio’n sylweddol hefyd. O ganlyniad, os yw’r ardal yn un lle bod tystiolaeth o siaradwyr Cymraeg yn symud i ddefnyddio’r Saesneg yn gynyddol, gallai swyddi newydd sy’n galw am ddefnydd helaeth o’r Gymraeg gyfrannu at wrthbwyso’r shifft iaith trwy normaleiddio ei defnydd yn y gweithle. Fel nododd Comisiynydd y Gymraeg yn ei adroddiad, Sefyllfa’r Gymraeg 2016-20:

‘Mae lle i weld cynnydd sylweddol yn y defnydd a wneir o’r Gymraeg fel iaith gwaith. Â llawer o bobl yn treulio mwyafrif eu horiau effro yn eu gwaith, gall rhoi cyfleoedd i bobl fynd i’r arfer o dreulio’r amser hwnnw’n trafod a gweithredu drwy’r Gymraeg gael traweffaith sylweddol ar arferion iaith yn y gweithle, y cartref a’r gymuned’ (t. 167).

Wrth gwrs, adlewyrchu ar dystiolaeth gyfredol o gyd-destun Cymru a wnaed yn y blog hwn ac nid dod i gasgliadau pendant. Serch hynny,  mae’r drafodaeth wedi tynnu sylw at y math o ystyriaethau sydd angen eu cloriannu os am wireddu nod ARFOR o flaenoriaethu cynlluniau creu gwaith sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y rhanbarth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This