Sut mae cefnogi’r economi a chryfhau’r Gymraeg? Y syniadau wrth wraidd ARFOR II

Hydref 2023 | Arfor, Di-gategori, Sylw

aerial view of city near body of water during daytime

Gan Dr. Elin Royles, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth. Mae Dr. Royles yn aelod o dîm o’r brifysgol sy’n cyd-weithio â Wavehill i gynnal gwerthusiad o weithgaredd Rhaglen ARFOR gan gyfrannu at becyn gwaith ‘dysgu ac ymchwil’ y prosiect. Yn y blog hwn mae’n trafod argraffiadau cynnar ar sail dadansoddi cynnwys Cynllun Gweithredu Arfor II ac yn amlinellu agenda ar gyfer gwaith y tîm dros y misoedd nesaf.

Fel cynllun arloesol i gefnogi’r economi a chryfhau’r Gymraeg mae cynllun ARFOR II yn cael ei gyflwyno. Un wedd o’r gwaith yw gwerthuso’r rhaglen ac o fewn hynny annog dysgu pellach am y berthynas rhwng yr economi a’r iaith. Fel cyfraniad cychwynnol i’r gwaith hwn fel tîm rydym wedi dechrau wrth ein traed trwy ystyried beth yw’r tybiaethau allweddol sy’n sail i ddogfen greiddiol y rhaglen, Cynllun Gweithredu ARFOR II.

Ar sail yr hyn sy’n cael ei amlinellu yn y Cynllun Gweithredu, a gan gydnabod ei bod hi’n debyg bod elfennau’n cael sylw wrth weithredu’r rhaglen, credwn fod dyfnhau’r dadansoddiad o’r sefyllfa ieithyddol ac economaidd ar draws rhanbarth ARFOR a’r rhyngberthynas rhwng yr amgylchiadau ieithyddol ac economaidd yn allweddol; bod lle i roi sylw manylach i ddeall sefyllfa allfudo ar draws siroedd ARFOR a’r berthynas â’r sefyllfa ieithyddol, economaidd a chymdeithasol; a bod gwerth asesu’n bellach sut gall yr economi gefnogi’r Gymraeg a’r defnydd ohoni ochr yn ochr â’r potensial i ddefnyddio’r Gymraeg i hybu’r economi, yn arbennig ar lefel unigolion. Yn sgil hyn dyma osod agenda i’n gwaith dros y misoedd nesaf ar yr un pryd â cheisio deall yn well weledigaeth economaidd a chynulleidfa ARFOR II.

O edrych ar Gynllun Gweithredu ARFOR II, beth sy’n dod i’r amlwg fel tybiaethau allweddol sy’n gyrru’r rhaglen? Dylai’r dadansoddiad o’r problemau a’r atebion ieithyddol ac economaidd-gymdeithasol ddylanwadu’n uniongyrchol ar y rhaglen.

Yn gyntaf, tra ei bod hi’n gwbl ddealladwy bod y rhesymeg yn y Cynllun Gweithredu yn pwysleisio’r nodweddion sy’n gyffredin ar draws y pedair sir (t. 5), mae tuedd i awgrymu bod sefyllfa’r Gymraeg a natur yr heriau sy’n wynebu’r iaith yn gyson ar draws ARFOR. Yma mae’r casgliad cryfaf o ardaloedd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, ond rydym hefyd yn gwybod bod gwahaniaethau yn y ffactorau sy’n effeithio ar sefyllfa’r iaith yn y pedair sir. Er enghraifft, onid yw’r patrwm o ran dwysedd siaradwyr yn amrywio ar draws y siroedd ynghyd â’r ffactorau sydd wedi effeithio ar hynny? Yn ogystal, onid oes amrywiadau pwysig o ran cyfradd trosglwyddo iaith o fewn teuluoedd, arferion defnydd iaith a phatrymau mewnfudo?

Hefyd, tra bod heriau economaidd cyffredin, mae’n debyg bod y sefyllfa mewn gwahanol siroedd o ran cyfraddau cyflogaeth, cryfder gwahanol sectorau a’r sgil effeithiau economaidd ar y Gymraeg yn debyg o amrywio hefyd.

O ganlyniad, mae lle i ddatblygu darlun mwy soffistigedig o sefyllfa’r iaith ar draws y rhanbarth, gan gynnwys rhwng siroedd ac o fewn siroedd. Ar yr un pryd, mae angen dadansoddiad dyfnach o sefyllfa’r economi yn siroedd ARFOR a cheisio deall y rhyngberthynas rhwng sefyllfa’r Gymraeg a’r economi er mwyn cael sail gadarnach i weithredu mewn ffordd bwrpasol i’r amryw amgylchiadau a chyd-fynd gyda’r pwyslais yn y Cynllun Gweithredu ‘ar addasu i gyd-destun ardaloedd unigol’ (t.11).

Yn ail, cyffredinol yw’r dehongliad o allfudo fel problem a’i sgil effaith ar sefyllfa economaidd-ieithyddol rhanbarth ARFOR yn y Cynllun Gweithredu. Mae amcan strategol 1 (t. 6) yn cyfeirio at greu ‘cyfleoedd i bobl a theuluoedd ifanc … aros neu i ddychwelyd’ i ardal ARFOR yn cyd-fynd gyda gweld allfudo a’r berthynas gyda’r economi fel sail i rai o broblemau’r ardal. Gyda Llwyddo’n Lleol, nodir poblogaeth sy’n heneiddio, newid demograffeg a mudo fel ffactorau sy’n effeithio ar yr ardaloedd a’r angen i gynyddu’r awydd i ddychwelyd a ‘gwaredu rhwystrau’ (t. 13).

Ond dydi hi ddim yn eglur o’r Cynllun Gweithredu fod seiliau’r rhaglen yn mynd yn ddyfnach i ddeall sefyllfa allfudo, materion fel y tebygrwydd a’r gwahaniaethau ymysg siroedd ARFOR o ran tueddiadau allfudo, gan gynnwys cyrchfannau allweddol, proffil oedrannau a phroffil chymdeithasol-economaidd y rhai sy’n allfudo. Hefyd, mae gwaith ehangach yn nodi bod allfudo’n cael ei yrru gan sefyllfa economaidd a chymdeithasol. Tra taw rhaglen economaidd yw ARFOR II yn ei hanfod sy’n egluro’r pwyslais yn y Cynllun Gweithredu ar swyddi a chyfleoedd gyrfa wrth ymateb i allfudo, gellid rhoi sylw pellach i sut mae’r ffactorau yma’n cysylltu gyda’r amodau cymdeithasol all ddylanwadu ar ddewisiadau pobl am ble maen nhw am fyw a gweithio a’r goblygiadau i raglen ARFOR II. Wrth wneud hyn, bydd yn bwysig tynnu sylw at weithgareddau allweddol o ran yr elfen gymdeithasol honno sydd yn debyg iawn y tu hwnt i raglen ARFOR II ac yn faterion ehangach i awdurdodadau lleol a phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru os am fynd ati o ddifri i wneud sefyllfa’r iaith yn hyfyw o fewn ardal ARFOR.

Yn drydydd, o ganolbwyntio’n benodol ar sut mae’r Cynllun Gweithredu yn cyfleu’r gydberthynas rhwng yr economi a’r iaith, mae blog Huw Lewis eisoes wedi mynd yn ddyfnach i wahanol agweddau ar y berthynas hon. Wrth gydnabod bod sefyllfa’r iaith o fewn y pedair sir yn dibynnu ar fwy na gwaith a thâl (t. 5), pwrpas ARFOR II yn ôl datganiad cyffredinol y Cynllun Gweithredu ydi: ‘Cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol’ (t. 6). Dyma adlewyrchu tuedd y rhaglen fel sy’n cael ei gyfleu yn y Cynllun Gweithredu i ddisgwyl i ddatblygiadau economaidd gael effaith ieithyddol uniongyrchol. Disgwylir i gyfleoedd cyflogaeth newydd effeithio ar arferion defnydd iaith a chynyddu’r graddau mae’r iaith yn cael ei defnyddio fel iaith gwaith.   Er hyn, tydi hi ddim yn eglur o’r cynllun os yw’r pwyslais ar ddefnydd iaith yn canolbwyntio ar gynyddu’r gwasanaethau a gynigir yn Gymraeg i gwsmeriaid, neu os oes ystyriaeth ddigonol hefyd i ffyrdd o annog defnydd o’r Gymraeg o fewn gweithleoedd, fel iaith gweithredu ac ymysg cydweithwyr.

Elfen arall yw tra bod cyfeiriadau at faterion fel cyflogau isel a thangyflogaeth yn ymddangos yn y rhesymeg fel sail ar gyfer rhaglen Cymunedau Mentrus (t. 16), at ei gilydd, dydi hi ddim mor eglur sut mae’r rhaglen am geisio mynd i’r afael â sut mae ffactorau ieithyddol yn dylanwadu ar ganlyniadau economaidd ar lefel unigolion. Hynny ydi, er bod disgwyl gweld effeithiau tymor hir fel cynnydd incwm teuluol yn sgil Llwyddo’n Lleol, sut mae’r rhaglen yn rhagweld ei bod am ddylanwadu ar ragolygon cyflog unigolyn sy’n siarad Cymraeg?

Ffactor gysylltiedig yw beth ydi’r weledigaeth economaidd ar gyfer rhanbarth ARFOR? Wrth i amcan strategol 2 gyfeirio at ‘fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd’ ac amcan strategol 4 at y nod o gryfhau ‘hunaniaeth cymunedau’ (t. 6), mae’r ieithwedd yn awgrymu bod y syniad o ddatblygu economaidd yn seiliedig ar nodweddion lle (place-based) yn cael ei ystyried yn gryfder. Gwelir hefyd bwyslais ar gefnogi mentergarwch yn ffrwd gwaith Llwyddo’n Lleol, ac ar fentrau masnachol a mentrau cymdeithasol yn ffrwd Cymunedau Mentrus. Ond, at ei gilydd, dydi hi ddim yn glir beth yw’r weledigaeth economaidd ar gyfer rhanbarth ARFOR, cyswllt hyn gyda’r problemau ieithyddol ac economaidd cyfredol, a’r berthynas rhwng y weledigaeth a datblygu’r economi a ffyniant y Gymraeg.  Pa gyfuniad o ymyraethau a sectorau economaidd sy’n cael eu hystyried fwyaf priodol i wireddu ffyniant economaidd fydd yn cefnogi’r Gymraeg yn ardal ARFOR?

Yn bedwerydd, pwy yw cynulleidfa darged gweithgaredd ARFOR? Nodir carfan oedran penodol o bobl a theuluoedd ifanc 35 oed neu ifancach heb egluro pam y grŵp oedran penodol hwn a’r goblygiadau i oedrannau uwch. Wrth nodi allfudo fel problem a sôn am ddychwelyd i ‘gymunedau cynhenid’ yn Amcan Strategol 1 (t. 6), yr argraff geir yw mai’r bwriad yw canolbwyntio’n benodol ar dargedu siaradwyr Cymraeg wedi’u geni a’u magu yn y rhanbarth. Oes dyhead ehangach i ddenu unrhyw siaradwyr Cymraeg all gyfrannu i’r rhanbarth yn economaidd a beth fyddai goblygiadau hynny o ran y modd o gyfleu’r rhaglen?

Mae cyfoeth a photensial aruthrol o fewn ardal ARFOR. Nid mater hawdd ydi llunio Cynllun Gweithredu a rhaglen er mwyn creu economi ffyniannus sy’n cefnogi iaith leiafrifol, gan gynnwys pan fo potensial i gynlluniau economaidd eraill ddibrisio anghenion economaidd ardal ARFOR ac nad oes ymwybyddiaeth ddigonol o oblygiadau buddsoddiad y fath raglenni ar y Gymraeg. Mae’n bosib bod rhai o’r elfennau sy’n cael eu codi gennym ar sail y Cynllun Gweithredu eisoes yn cael sylw wrth weithredu’r rhaglen. Ond drwy amlygu ble byddai’n fuddiol bod yn fwy eglur o ran prif dybiaethau ARFOR, rydyn ni hefyd wedi amlinellu’r prif feysydd ble mae angen cryfhau’r sail tystiolaeth ar gyfer gweithredu’r rhaglen ac i’r cyfeiriad hwn y byddwn fel tîm dysgu yn datblygu ein gwaith yn y misoedd nesaf.

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This