Y Ganolfan Cynllunio Iaith i gynnal darlith ar fateroliaeth, neoryddfrydiaeth a’r ieithoedd Celtaidd

Hydref 2023 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae’r Ganolfan Cynllunio Iaith wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal darlith gan Dr. Ben Ó Ceallaigh o’r enw ‘Ôl-fateroliaeth ac adfywio iaith: ychydig sylwadau am y Wyddeleg a rhai o’r ieithoedd Celtaidd eraill’ bydd yn cael ei gynnal 4yh ar 18 Hydref 2023 yng Nghanolfan Cynadledda Mentrus Prifysgol Aberystwyth.

Yn wreiddiol o orllewin Iwerddon mae Dr. Ó Ceallaigh bellach yn ddarlithydd yn adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas sy’n bodoli rhwng economi wleidyddol ac iaith, ac yn edrych yn benodol ar effeithiau andwyol cyfalafiaeth ar ieithoedd lleiafrifedig. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys edrych ar sgil effeithiau cwymp economaidd 2008 ar gymunedau Gwyddeleg eu hiaith a pholisi iaith ynghylch y Wyddeleg ers hynny.

Bydd ei ddarlith yn edrych ar effaith yr argyfwng costau byw ar allu pobl i ddysgu iaith bellach, gan ofyn i ba raddau yw’n realistig i ddisgwyl i bobl ofidio am ieithoedd lleiafrifedig wrth iddynt wynebu heriau materol dwys yn eu bywydau bob dydd. Bydd yn defnyddio data o Iwerddon a’r gwledydd Celtaidd eraill i archwilio’r cysyniad o ‘ôl-fateroliaeth’ yng cyd-destun polisi iaith, ac i ddadlau bod angen sicrhau newid sylfaenol yn y system economaidd er mwyn adfer ac adfywio’r ieithoedd lleiafrifedig hyn.

Mae modd i’r rheini sydd â diddordeb fynychu’r ddarlith yn y Ganolfan Cynadledda Mentrus yn Aberystwyth, neu ymuno yn rhithiol drwy Microsoft Teams. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This