Papur yn galw am ‘gyfiawnder gofodol’ i gefn gwlad

Hydref 2023 | Polisi gwledig, Sylw

a landscape with hills and trees

Mae papur newydd gan yr Athro Michael Woods o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn galw am ‘gyfiawnder gofodol’ er mwyn datrys y problemau niferus y mae cefn gwlad y DU yn ei wynebu. Mae’r papur wedi ei gyhoeddi yn The Geographical Journal, cyfnodolyn academaidd chwarterol Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

Ystyr cyfiawnder gofodol yn y cyd-destun hwn yw dull o edrych ar gyfiawnder cymdeithasol yn nhermau gofod neu ardal, gan edrych yn benodol ar yr elfennau daearyddol a chynllunio cyhoeddus sydd yn effeithio ar y gofod hwnnw. Mae’r papur yn crybwyll y dylid defnyddio theori cyfiawnder gofodol i ddatblygu ymatebion polisi i argyfyngau cefn gwlad gan osod fframwaith yn ei le sy’n amlinellu sut y gellid gwneud hyn. Arddeliad yr awdur yw bydd y dull hwn o ystyried anghyfiawnderau gofodol yn fuddiol wrth ystyried problemau cefn gwlad Prydain.

Mae modd i chi ddarllen y papur, sy’n dwyn y teitl ‘Adferiad gwledig neu gyfiawnder gofodol gwledig?  Ymateb i argyfyngau lluosog ar gyfer cefn gwlad Prydain’ drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This