Mudiad Innovative Farmers i gynnal gweithdy ymchwil

Hydref 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae’r mudiad Innovative Farmers wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal gweithdy digidol ar 19 Hydref 2023 i ymchwilio sut y gellir helpu ddatblygu dulliau arloesi ym myd amaeth. Bwriad y gweithdy yw dod ynghyd a ffermwyr, tyfwyr a thyddynwyr i drafod dyfodol byd amaeth a sut y gellir ymateb i’r newidiadau amryfal sy’n bygwth herio’r diwydiant yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae’r cyfnod diweddar wedi gweld newidiadau eang i bolisi a masnachu ynghyd ac amlygrwydd cynyddol yr argyfyngau hinsawdd a natur. Yn y cyd-destun hwn mae Innovative Farmers yn ei gweld hi’n hanfodol i gynnal ymchwil er mwyn deall yn well yr hyn y mae’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant yn meddwl a theimlo ynghyd ac i gofnodi unrhyw ddatrysiadau sydd ganddynt i’w gynnig. Bydd y sesiwn hwn yn fodd i rheini sydd â diddordeb fynegi eu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil pellach oddi fewn i’r DU, ynghyd ac unrhyw anghenion penodol y maent yn gweld fel bod yn angenrheidiol i’w datrys.

Y nod yw rhannu canfyddiadau’r ymchwil hwn gyda gwneuthurwyr polisi, darparwyr ac arianwyr ymchwil er mwyn ennyn dealltwriaeth o’r meysydd rheini sydd angen buddsoddiad a sylw pellach.

Am fwy o wybodaeth am y gweithdy, ynghyd a’r cyfle i gofrestru ar gyfer mynychu, dilynwch y ddolen isod.

Workshop: Research and Innovation Priorities in UK Farming Tickets, Thu 19 Oct 2023 at 12:00 | Eventbrite

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This