Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi gweithdai lleihau allyriadau

Hydref 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi cyfres o weithdai rhad ac am ddim i helpu ffermwyr ddeall sut y gallent leihau allyriadau mewn buchesi a diadelloedd. Bydd y gweithdai yn cael eu darparu gan filfeddygon lleol er mwyn helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru bydd yn gosod polisïau newydd ar gyfer lleihau allyriadau yn eu lle.

Bydd y tri gweithdy yn canolbwyntio ar y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) sef modd o lywio cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaladwyedd busnesau ffermio sy’n cadw anifeiliaid, er mwyn sicrhau eu hiechyd a lles anifeiliaid. Byddent yn dangos sut y gall ffermwyr ddefnyddio dulliau casglu data meincnodi i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud wrth leihau ôl troed carbon.

Dywedodd Becky Summons, Rheolwr Iechyd a Lles Anifeiliaid a Rheolwr E-ddysgu Cyswllt Ffermio:

‘Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdai hefyd yn dod i ddeall manteision amgylcheddol rheoli’r fuches a’r ddiadell yn dda.’

Bydd y rheini sy’n mynychu’r gweithdy’n derbyn tystysgrif presenoldeb Gwobrau Lantra. I ddysgu mwy am y gweithdai, neu i fynegi eich diddordeb yn mynychu un o’r sesiynau, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyswllt Ffermio.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This