Hybu Cig Cymru yn chwilio am aelodau ar gyfer grwp diwydiant

Hydref 2023 | O’r pridd i’r plât, Sylw

cow, calf, bovine

Mae Hybu Cig Cymru yn chwilio am hyd at 10 aelod i gymryd rhan mewn grŵp gweithio newydd fydd yn edrych ar arloesi ac ymchwil oddi fewn i’r diwydiant cynhyrchu cig. Bydd y Gweithgor Arloesedd ac Ymchwil Cynaliadwy yn helpu i gynorthwyo gwaith Hybu Cig Cymru drwy edrych ar y datblygiadau diweddaraf yn y maes gyda’r nod penodol o ddatblygu dulliau newydd o edrych ar gynaladwyedd cynhyrchu cig coch yng Nghymru.

Mae Hybu Cig Cymru yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol ym meysydd geneteg, iechyd a lles anifeiliaid, rheoli tir, rheoli porfeydd, adnoddau naturiol a meysydd eraill yn ymwneud a chynaladwyedd a chynhyrchu cig.

Dywedodd Pennaeth Cynaladwyedd a Pholisi’r Dyfodol, Rachel Madeley-Davies:

‘Bydd y Gweithgor newydd hwn yn wirioneddol bwysig i waith HCC, gyda chynaliadwyedd, effeithlonrwydd ac arloesedd i gyd yn uchel ar agenda HCC a’r sector bwyd-amaeth ehangach.’

‘Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael sgiliau, gwybodaeth a phrofiad amrywiol yn y Gweithgor.  Felly, er y byddwn yn canolbwyntio ar y sector cig coch yng Nghymru, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol o’r tu allan i Gymru.’

‘Mae arloesi ac ymchwil cynaliadwy yn allweddol er mwyn ysgogi effeithlonrwydd a phroffidioldeb i ffermwyr a’r sector cyfan, yn ariannol ac yn amgylcheddol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallan nhw gyfrannu at y maes hwn o waith a thrafodaeth i wneud cais.’

Mae modd gwneud cais hyd at 5yh ar 17 Tachwedd 2023. Mae modd cael manylion llawn ynghylch sut i wneud cais ar wefan Hybu Cig Cymru drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This