Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi rhaglen £4.6m i geisio atal llifogydd

Hydref 2023 | O’r afon i’r môr, Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £4.6m i geisio atal llifogydd gan ddefnyddio dulliau’n seiliedig ar fyd natur. Cyhoeddwyd Rhaglen Sbarduno Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd ar y cyd gan Julie James, y Gweinidog newid Hinsawdd, a Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru. Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad blaenorol y Rhaglen Lywodraethu ac fe fydd yn rhaglen dwy flynedd yn edrych yn benodol ar ddulliau naturiol o ddal ac arafu llif dŵr.

Bydd y rhaglen yn caniatáu i Awdurdodau Rheoli Risg i weithio gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a sefydliadau trydydd sector er mwyn lleihau’r posibilrwydd o niwed i bobl, y tirlun, eiddo, bywyd gwyllt sy’n dyfod gyda llifogydd drwy ddulliau megis plannu coed a newid defnydd o dir. Bydd y gronfa’n ariannu 23 prosiect ar draws 8 ardal Awdurdod Rheoli Risg gyda’r gobaith bydd hyn yn arwain at leihad mewn risg llifogydd i 2,000 o dai.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

‘Wrth i Gymru fynd i’r afael ag effeithiau cynyddol y newid yn yr hinsawdd a’r difrod y gall llifogydd ei achosi, mae’r angen i leihau’r risg i gymunedau nawr ac i’r dyfodol yn tyfu.

Mae datblygu a chynnal atebion cynaliadwy sy’n seiliedig ar natur i leihau perygl llifogydd yn hanfodol i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, ein cartrefi a’n cymunedau.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi heddiw ein bod yn lansio y Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

Bydd y rhaglen yn buddsoddi £4.6 miliwn dros 2 flynedd i ehangu ymhellach ein hymrwymiad i weithio ar y cyd â ffermwyr, perchenogion tir a mudiadau’r trydydd sector ledled Cymru.

Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar yr hyn y mae prosiectau llwyddiannus y gorffennol wedi dysgu i ni ac yn dod â nifer o atebion arloesol at ei gilydd i ddatblygu atebion sy’n seiliedig ar natur yn ein dalgylchoedd gwledig.’

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

‘Gyda chefnogaeth ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd, gallwn ddatblygu’r economi wledig a’n hamgylchedd naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hyn yn gwella ein gwybodaeth a’n profiad ymhellach o ran darparu prosiectau cydweithredol cydlynol mewn ardaloedd sy’n tueddu i ddioddef gan lifogydd. Trwy ddefnyddio’r wybodaeth a geir o gynnal cynlluniau fel hyn, byddwn hefyd yn lleihau llygredd, yn lleihau dŵr ffo ac yn annog ffyrdd newydd o addasu i hinsawdd sy’n newid.

Rydym i gyd yn cydnabod bod angen inni gydweithredu mwy wrth ystyried ac annog ffyrdd newydd o weithio ar y cyflymder a’r raddfa sydd eu hangen. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i Awdurdodau Rheoli Risg a chymunedau lleol arwain brosiectau a lleihau perygl llifogydd yn eu hardal.’

Nid oedd y cyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi union leoliadau y prosiectau unigol, y tai y bydd yn cael eu gwarchod na beth yw’r amserlen ar gyfer cwblhau y prosiectau unigol hyn. Cadwch olwg ar Arsyllfa er mwyn canfod y wybodaeth diweddaraf am y cynllun hwn a rhai eraill cyffelyb.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This