Cyngor Gwynedd yn galw am geisiadau i’r Grant Cynlluniau Rhandiroedd

Tachwedd 2023 | O’r pridd i’r plât, Sylw

green leafed plants near trees

Mae Cyngor Gwynedd wedi atgoffa grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref a mudiadau gwirfoddol am arian sydd ar gael er mwyn cynyddu argaeledd rhandiroedd i bobl yr ardal. Mae modd gwneud cais am arian yn enw sicrhau un neu fwy o’r amcanion canlynol:

  • Creu rhandir / Rhandiroedd newydd.
  • Dod a hen randiroedd yn ôl i ddefnydd.
  • Gwella mynediad i randiroedd.
  • Gwella cyfleusterau a gwasanaethau ar randiroedd.
  • Gwella diogelwch safle randiroedd.
  • Gwella ailgylchu ar randiroedd.
  • Gwella bioamrywiaeth ar randiroedd.
  • Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o randiroedd.

Byddai modd defnyddio’r arian i brynu deunyddiau adeiladu, ffensys, giatiau ac arwyddon ynghyd ac offer mawr megis siediau, tai gwydr, twneli poly, storfeydd a chafnau dŵr. Mae modd hefyd defnyddio’r arian i baratoi’r tir, yn enwedig os yw’r maes yn un sydd heb gael ei ddefnyddio ers tro. Gellid hefyd defnyddio’r arian i fuddsoddi mewn technoleg i helpu i hyrwyddo ac i reoli rhandiroedd.

Mae modd canfod ffurflen gais sy’n amlinellu holl ofynion y grant ar wefan Cyngor Gwynedd. Mae angen i unrhyw geisiadau gael eu cwblhau erbyn 1 Rhagfyr 2023.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This