Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn lansio strategaeth Cymru Can

Tachwedd 2023 | Sylw

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi dweud bod angen i Gymru wella’r modd y mae’n gweithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn ôl Derek Walker mae angen gweld newid sylweddol yn y ffordd mae’r ddeddf yn cael ei weithredu i osgoi methu targedau allweddol.

Mae Cymru Can yn strategaeth 7 mlynedd sy’n amlinellu 5 ardal er mwyn eu gwella sef:

  • Sicrhau bod y ddeddf yn cael effaith ar fywyd dydd i ddydd pobl Cymru
  • Ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur
  • Gwneud mwy i wella iechyd a lles cyffredinol pobl Cymru
  • Sicrhau economi sy’n blaenoriaethu lles
  • Amddiffyn ac ehangu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Mae’r Comisiynydd wedi treulio’r 8 mis diwethaf yn siarad â phobl ar draws Cymru ynghylch yr ardaloedd hynny lle gall ei waith gael yr effaith mwyaf. Canlyniad y trafodaethau hynny yw Cymru Can, sy’n gosod llwybr penodol i’w ddilyn hyd at 2030.

Fel rhan o’r newidiadau cychwynnol, mae’r Comisiynydd wedi dweud y bydd yn symud adnoddau’r sefydliad i gynyddu’r cyngor a’r cymorth a ddarparir i gyrff cyhoeddus, gan addo y bydd yna adolygu cyson ar y gwaith hwn i sicrhau fod cynnydd yn digwydd yn amserol.

Dywedodd Derek Walker am y strategaeth:

‘Mae pobl yn falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’n nodau llesiant – ond rhaid inni wthio’n galetach i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n well i wneud newid mwy cadarnhaol ym mywydau beunyddiol pobl, nawr ac yn y dyfodol.

‘Mae angen newid brys a thrawsnewidiol, gydag atebion cydgysylltiedig a hirdymor i broblemau fel yr argyfyngau hinsawdd a natur, anghydraddoldeb a thlodi ac nid yw’n digwydd ar y cyflymder a’r raddfa sydd ei angen arnom – fy ngwaith i yw gweithio gydag eraill i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gefnogi’r newid hwnnw.

‘Gall Cymru wneud cymaint mwy i gynyddu llesiant pawb a chynnwys mwy o bobl mewn adeiladu dyfodol cadarnhaol newydd – mae gennym ni ganiatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol y gyfraith unigryw hon i wneud pethau gwell, ac mae yna enghreifftiau gwych o ble mae hynny’n digwydd y gellir eu lledaenu ar draws Cymru.’

I ddysgu mwy am Cymru Can, ewch i wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This