Prosiect £300k Bwrlwm ARFOR yn targedu cadarnleoedd Cymraeg

Ebrill 2024 | Arfor, Sylw

Zoe o Lafan

Lansiwyd ymgyrch gwerth £300,000 i annog busnesau yng nghadarnleoedd Cymraeg Cymru i’w defnyddio i hybu eu llinell waelod. Mae Bwrlwm ARFOR yn estyn allan i gwmnïau a busnesau, o siopau pentref i fentrau gwerth miliynau o bunnoedd, ar draws y pedair sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg. Mae’n rhan o gynllun gwerth £11 miliwn ARFOR Dau Llywodraeth Cymru sy’n targedu cadarnleoedd y Gymraeg yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio’r iaith er mwyn hybu entrepreneuriaeth a datblygiad economaidd. Y nod yw creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd a’u helpu i aros yn eu cymunedau neu i ddychwelyd iddynt ac mae’n rhan o strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, sy’n anelu at weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r prosiect, sy’n rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, yn cael ei redeg gan gwmni ymgynghori sy’n tyfu’n gyflym, Lafan, y mae ei brif ymgynghorydd Zoe Pritchard yn anelu at gefnogi cymunedau yn y siroedd hynny i ddefnyddio’r Gymraeg fel mantais busnes.

Dywedodd: “Rydyn ni eisiau creu bwrlwm o gwmpas y defnydd o’r Gymraeg mewn amgylchedd busnes neu fasnachol a sut y gall yr iaith helpu busnesau i ffynnu a darparu gyrfaoedd i’n pobl ifanc fel nad ydyn nhw’n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd. Ei nod yw dathlu’r Gymraeg a dangos nad yw’n grair amgueddfa ond yn rhywbeth sydd â manteision a pherthnasedd gwirioneddol i fusnesau yma ar draws y pedair sir. Rydyn ni eisiau creu digon o sŵn a bwrlwm i ysgogi trafodaethau da ynghylch annog busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg a’i fod o fudd gwirioneddol i fusnesau ar draws gwahanol sectorau oherwydd bod pobl sy’n ymweld â Chymru eisiau teimlo eu bod wedi dod i rywle gwahanol, rhywle gyda’i iaith, ei hunaniaeth a’i diwylliant ei hun.

“Rydym hefyd yn canolbwyntio ar arddangos y busnesau niferus ar draws y pedair sir sy’n gwneud defnydd da o’r iaith ac sy’n ei defnyddio gyda hyder a balchder. Maen nhw’n cynnig gwasanaeth gwych, maen nhw’n cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg ac i’r sector twristiaeth mae hynny’n bwynt gwerthu unigryw. Mae pobl yn hoffi hanes a threftadaeth a dysgu am ddiwylliannau gwahanol ac yng Nghymru mae gennym iaith a diwylliant byw, felly mae defnyddio’r Gymraeg yn fudd enfawr. Y ffactor arall yw, os nad ydyn ni’n defnyddio’r Gymraeg neu os nad yw’r iaith yn cael ei gweld neu ei chlywed mewn siopau a busnesau ar draws ardal ARFOR, yna efallai ein bod ni ar ein colled fel economi.” 

Lansiwyd cynllun ARFOR Dau, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sydd werth £11 miliwn yn 2022 fel olynydd i raglen ARFOR 2019 er mwyn parhau i gryfhau a hyrwyddo cadernid economaidd y Gymraeg yn y pedair sir sydd â’r lefelau uchaf o siaradwyr Cymraeg. Dangosodd Cyfrifiad 2021 mai Gwynedd gyda 64 y cant o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg ac Ynys Môn, lle mae 56 y cant o’r boblogaeth yn medru’r iaith, sydd â’r cymarebau uchaf o siaradwyr Cymraeg ac yna Ceredigion, lle mae 45 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg a Sir Gaerfyrddin, lle mae 40 y cant yn medru ei siarad. Mae’r niferoedd yn lleihau yn araf, gyda gostyngiad o un y cant ers Cyfrifiad 2011, ac mae hynny’n wir am ardal ARFOR heblaw am Wynedd ond mae hynny’n rhywbeth y mae Bwrlwm ARFOR yn anelu i fynd i’r afael ag ef.

Ychwanegodd Zoe: “Nod y prosiect yw arddangos y manteision economaidd y gall siarad Cymraeg a hyrwyddo’r iaith mewn busnesau eu cael. Y ffaith yw bod peidio defnyddio’r Gymraeg neu o leiaf cael yr iaith yn weladwy yn gallu costio arian drwy fethu manteisio ar y gynulleidfa honno o siaradwyr Cymraeg. Mae’n ymwneud â chroesawu pobl leol a chydnabod yr hunaniaeth honno a’r dystiolaeth yw bod ymwelwyr â Chymru yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn wlad a diwylliant sydd â’i hunaniaeth a’i hiaith ei hun. Y ffaith yw, os na fydd busnesau’n gwneud unrhyw beth, yna mae’n debygol o gostio arian iddyn nhw.”

Mae ARFOR Dau yn rhan o Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru ac mae’n dilyn rhaglen wreiddiol ARFOR a lansiwyd yn 2019. Y bwriad yw darparu cymorth economaidd i gymunedau sy’n gadarnleoedd i’r Gymraeg, cynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol a helpu pobl ifanc dan 35 oed i aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd iddynt.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This