Tlodi bwyd

Mai 2023 | Tlodi gwledig

person in blue crew neck t-shirt holding white plastic bag

Mae prisiau bwyd cynyddol yn gwaethygu cyfraddau tlodi. Mae ymchwil gan y Big Issue yn amlygu bod llawer o unigolion a theuluoedd yn cael trafferth fforddio hanfodion sylfaenol, fel bwyd a gwres, ac yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd i oroesi.

Gwelodd Ymddiriedolaeth Trussell gynnydd o 40% yn nifer y bobl a oedd yn ceisio cymorth gan fanciau bwyd rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022. Roedd hyn yn cynnwys 320,000 o bobl a geisiodd gymorth am y tro cyntaf, gan fynd â chyfanswm y parseli bwyd a ddarparwyd i 1.3 miliwn ledled y DU.

Nid yw ardaloedd gwledig yn imiwn i dlodi bwyd er y dylid nodi bod argaeledd banciau bwyd mewn ardaloedd gwledig yn golygu y gallai’r ffigurau ar gyfer tlodi bwyd fod hyd yn oed yn waeth na’r hyn a ddyfynnwyd. Yn 2021-22, dosbarthwyd 131,232 o barseli bwyd brys yng Nghymru – mae ffigurau ar gyfer Caerfyrddin yn dangos bod 8,110 o barseli bwyd wedi’u dosbarthu rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, gyda 4,637 yn cael eu dosbarthu yn Sir Benfro a 4,402 arall ym Mhowys. Mae’r ffigurau hyn yn debygol o godi ymhellach pan gyhoeddir y ffigurau diweddaraf yng nghanol 2023.

Mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu’r sefyllfa hon gyda dadansoddiad gan The Food Foundation yn nodi bod cyfanswm o 9.7 miliwn o oedolion wedi profi ansicrwydd bwyd ym mis Medi 2022 a’r The Resolution Foundation yn rhagweld y bydd 1.3 miliwn o bobl ychwanegol, gan gynnwys 500,000 o blant yn y DU yn wynebu tlodi absoliwt dros fisoedd y gaeaf 2022/23.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This