Rhaglen ARFOR: Cyfle i Gymunedau Arloesi a Mentro

Mawrth 2023 | Arfor, Sylw

Mae ARFOR, Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin, nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus. Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yn dilyn llwyddiant rhan gyntaf y Rhaglen rydym nawr yn cyhoeddi cyfleoedd am gefnogaeth drwy ffrwd waith Cymunedau Mentrus. Dyma gyfle i gwmnïau, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol geisio am nawdd hyd at Fawrth 2025 er mwyn cefnogi cymunedau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu yn economaidd, ac yn sgil hynny atgyfnerthu’r iaith.

Mae sawl agwedd i gronfa ARFOR a ffrwd waith Cymunedau Mentrus; yn gyntaf mae’n annog creu amrywiaeth o swyddi er mwyn rhoi cyfle i bobl a theuluoedd ifanc allu aros a gweithio yn eu cymunedau cynhenid. Wrth wneud hyn mae’r gronfa hefyd yn ymateb i’r perygl posib o golli adnoddau a gwasanaethau lleol allweddol o’r cymunedau hyn. Mae’r gronfa hefyd yn galw ar fentrau masnachol a chymdeithasol i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a fydd, nid yn unig yn ychwanegu gwerth at eu nwyddau neu wasanaeth, ond hefyd yn cynnal naws Cymreig cymunedau Rhaglen ARFOR.

Mae’r Rhaglen felly yn annog ymgeiswyr ledled y pedair Sir i fwrw iddi mewn modd creadigol ac arloesol, gan ddatblygu cynlluniau fydd yn sbarduno busnesau Cymreig newydd, yn gwarchod a chreu rhagor o swyddi lleol a thrwy hyn oll yn sefydlu mwy o ofodau Cymraeg o fewn y cymunedau. Bydd angen i’w cynlluniau ganolbwyntio ar rinweddau unigryw eu cymunedau, gan gynnwys y Gymraeg, a chylchdroi arian yn eu hardal er mwyn cynyddu faint o gyfoeth sy’n aros yn lleol.

I ddysgu mwy a gwneud cais ewch i:  Cymunedau Mentrus

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This