£11miliwn wedi’i sicrhau ar gyfer cam dau Rhaglen ARFOR

Mawrth 2023 | Arfor, Sylw

Mae ARFOR, rhaglen sy’n gweithio ar draws cadarnleoedd Cymraeg a gwledig Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, i ddatblygu ymyriadau economaidd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar lawer o siaradwyr Cymraeg a hyfywedd y Gymraeg, wedi sicrhau cyllid o £11 miliwn drwy’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, i gefnogi ail gam y Rhaglen.

Bydd y cyllid, sy’n seiliedig ar lwyddiant cam cyntaf y Rhaglen, yn rhedeg tan fis Mawrth 2025 ac yn canolbwyntio ar bum ffrwd waith:

 Llwyddo’n Lleol – Esblygiad o’r prosiect blaenorol i gefnogi pobl ifanc i fentro drwy gyfuniad o gefnogaeth a chymorth ariannol ond hefyd yn ehangu i gefnogi teuluoedd ifanc i aros yn eu hardal neu ddychwelyd iddi yn ogystal â cheisio newid canfyddiadau’r grwpiau targed ynglŷn â’u gallu i gyflawni eu dyheadau yn lleol.

Cymunedau Mentrus  – Adeiladu ar y cronfeydd cefnogi busnes llwyddiannus oedd ar gael gan y pedair sir yn ystod gwedd gyntaf Rhaglen ARFOR drwy ddarparu cefnogaeth ariannol ac ymarferol i fentrau masnachol, cymdeithasol a chymunedol sefydlu a datblygu. Bydd y gweithgaredd yn canolbwyntio ar fentrau sy’n manteisio ar rinweddau unigryw eu cymunedau (gan gynnwys y Gymraeg) ac/neu sydd yn cylchdroi arian yn eu hardal er mwyn cynyddu faint o gyfoeth sy’n aros yn lleol.

Cronfa Her ARFOR  – Sefydlu cronfa strategol i ganiatáu i sefydliadau (gan gynnwys y Cynghorau) i gyflwyno ceisiadau am adnoddau i ddatblygu a threialu gweithgareddau yn ardal ARFOR a fydd yn mynd i’r afael ag Amcanion Strategol y Rhaglen.

Cryfhau hunaniaeth cymunedau ARFOR: Bydd y cynllun yn adeiladu ar waith blaenorol i hybu arfer da a’r defnydd o’r Gymraeg yn ystod cam cyntaf Rhaglen ARFOR, bydd y gwaith yn hyrwyddo hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg ac yn sbarduno teyrngarwch trigolion lleol trwy ledaenu negeseuon cadarnhaol am eu hardal a’r gorllewin i gyd.

Dysgu o Raglen ARFOR: Un o rinweddau allweddol Rhaglen ARFOR yw sbarduno cydweithio a rhaeadru gwersi ynglŷn â’r maes.  Bydd y cynllun yn sicrhau bod monitro a gwerthuso canlyniadau ac effaith ARFOR yn ganolog i’r Rhaglen, ac yn sicrhau bod strwythurau’n cael eu sefydlu o’r dechrau i rannu’r gwersi sy’n deillio o’r Rhaglen a’i gweithgarwch.

Bydd ail wedd Rhaglen ARFOR yn cael ei gweithredu yn ardaloedd daearyddol Sir Gâr, Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn. Yn y pedair sir y ceir y canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyda mwy na 41% o’r holl siaradwyr yng Nghymru yn byw yno. Er y bydd y Rhaglen yn gweithio yn y pedair sir yma, bydd cyfle sylweddol i rannu gwersi gydag ardaloedd y tu allan i ranbarth ARFOR yn ystod oes y Rhaglen, er mwyn sicrhau bod unrhyw arfer da yn cael ei ledaenu cyn belled ag sy’n bosibl.

Bwriedir sefydlu fforwm ymgynghorol o randdeiliaid o blith sefydliadau cyhoeddus sefydliadau preifat a’r trydydd sector. Bydd ‘Y Fforwm’ yn llwyfan i rannu gwybodaeth a lledaenu gwersi i gynulleidfa ehangach, ynghyd â derbyn mewnbwn ac arweiniad. Gan adlewyrchu’r drefn ranbarthol, bydd pob sir unigol hefyd yn sicrhau fforwm priodol i raeadru gwybodaeth am Raglen ARFOR yn lleol ac i dderbyn mewnbwn rhanddeiliaid.

Ceir rhagor o fanylion am gam dau Rhaglen ARFOR yma: Prosbectws ARFOR

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This