Tlodi trafnidiaeth

Mai 2023 | Tlodi gwledig

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd ac unigolion incwm is ledled Cymru ond mae tlodi trafnidiaeth yn effeithio’n andwyol ar y rheini yng nghefn gwlad Cymru yn benodol. Mae  adroddiad diweddar gan Sustrans Cymru yn diffinio tlodi trafnidiaeth fel pan fo aelwyd yn gwario mwy na 10% o’i hincwm ar redeg car ac yn amlygu mai pobl sy’n byw yn ardaloedd gwledig Cymru yw rhai o’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan dlodi trafnidiaeth.

Mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru  yn nodi bod trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn annigonol, yn anaml, ac yn ddrytach nag ardaloedd trefol, gan arwain at ddefnydd cynyddol o gerbydau preifat a chostau uwch i unigolion. At hynny, mae pandemig COVID-19 wedi dwysau’r diffyg trafnidiaeth ddigonol yng nghefn gwlad Cymru, gan arwain at fwy o anghydraddoldeb.

Mae costau teithio hefyd wedi cynyddu, gyda phrisiau tocynnau trên, coets a bws wedi cynyddu hyd at 74% dros y deng mlynedd diwethaf, yn ôl Mynegai Prisiau Trafnidiaeth Sefydliad yr RAC. Yn ogystal, nid oes gan gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru fynediad at gar neu fan, ac nid oes gan rai gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o fewn eu hardal leol, sy’n ei gwneud yn broblem sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae Mark Shucksmith, wrth ysgrifennu ar gyfer The Conversationym mis Mawrth 2023, yn nodi bod y mynegai amddifadedd lluosog, y mae llywodraethau’n ei ddefnyddio i nodi ardaloedd lle mae tlodi wedi’i grynhoi, yn aml yn methu tlodi gwledig gan fod y mynegeion a ddefnyddir yn cynnwys data ar ddiffyg perchenogaeth ceir i helpu i fesur maint tlodi ardal – ond mewn ardal wledig, mae car yn hanfodol hyd yn oed ar gyfer aelwydydd tlotach.Top of Form

Bottom of Form

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This