Tocynnau Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn mynd ar werth

Medi 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae tocynnau i bumed Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru wedi mynd ar werth. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Ngholeg Cambria Llysfasi yn Rhuthun ar 1 + 2 Tachwedd 2023. Bwriad y gynhadledd yw dod ynghyd a ffermwyr, tyfwyr, gweithwyr amaethyddol ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn sut y gellir gweld dyfodol gwahanol i ffermio yng Nghymru. Sefydlwyd y gynhadledd fel dull o archwilio sut y gellid gwneud ffermio yng Nghymru yn fwy cynaliadwy ac i hyrwyddo egwyddorion megis sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol.

Bydd Sarah Dickins, sydd yn ymgynghorydd economaidd cynaliadwy, ffermwr organig ac yn gyn sylwebydd ar yr economi i BBC Cymru Wales. Mae Sarah hefyd yn gweithio fel rhan o grŵp her Cymru Sero Net 2035, sydd wedi cael eu dirprwyo gan Lywodraeth Cymru i ganfod datrysiadau i’r heriau y mae newid hinsawdd yn cyflwyno i bobl Cymru.

Bydd siaradwyr eraill yn trafod ystod eang o bynciau megis diogelwch bwyd, sut mae cydbwyso cynhyrchu bwyd a bywyd gwyllt, cadw a chynnal perllannau, dulliau o fasnachu bwyd yn lleol, bioamrywiaeth wrth ffermio, partneriaethau bwyd a rheoli dŵr mewn cyd-destun amaethyddol.

Mae trefnwyr y gynhadledd yn eiddgar am wirfoddolwyr i helpu gyda threfniadau’r digwyddiad. Gan fod Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn fudiad gwirfoddol ei hun ac yn ddibynnol ar nawdd a gwerthiant tocynnau i gynnal y digwyddiad, maent yn galw am unigolion sydd am gymryd rhan a gwirfoddoli i gysylltu â nhw i helpu. Os ydych â diddordeb gwirfoddoli, gallwch fynegi hynny i’r trefnwyr drwy gysylltu â Thîm y Gynhadledd drwy gyfrwng e-bost ar gwybodaeth@cgfffc.cymru neu drwy gyfrwng Trydar @wrffc23.

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ac archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This