Vaughan Gething yn cyhoeddi na fydd cynllun banc cymunedol Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn parhau

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

20 pounds bank of england

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi fod cynllun i greu banc cymunedol byddai’n gwasanaethu cymunedau gwledig ar draws Cymru wedi ei atal am y tro o ganlyniad i’r tirlun economaidd ansicr. Bwriad y banc oedd bod yn sefydliad ac iddo sylfaen gref mewn cymunedau ar draws Cymru, er mwyn gwasanaethu’r ardaloedd hynny sydd wedi colli gwasanaethau bancio dros y blynyddoedd diwethaf. Gan nad oes gan Lywodraeth Cymru’r pwerau angenrheidiol i greu Banc Cymunedol cyhoeddus, roedd gweinidogion wedi bod mewn trafodaethau i roi cefnogaeth i ddatblygu banc o’r fath gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ers 2021.

Dywedodd Gething ei fod wedi cael cyfarfod a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gynharach yn yr wythnos, lle hysbyswyd ef y byddent yn cynnal adolygiad strategol y byddai’n edrych ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth bancio cymunedol a’u bod felly wedi cadarnhau nad ydynt yn credu ei bod yn amser cywir i ddechrau menter y banc cymunedol. Awgrymodd mai’r prif gymhelliant dros yr adolygiad oedd yr effaith yr oedd yr amodau economaidd presennol yn cael ar y farchnad morgeisi a bod hyn yn rhywbeth sy’n annhebygol o newid yn y tymor byr. Dywedodd y byddai unrhyw gynllun pellach i sefydlu banc cymunedol yn cael ei lywio gan adolygiad arall ac nad oedd y banc yn rhagweld hyn yn digwydd oddi fewn i dymor presennol y Senedd.

Mewn edefyn ar Twitter fe wnaeth Banc Cambria, sydd wedi bod yn rhan o’r broses lobïo a chynllunio ar gyfer creu banc cymunedol, ddatgan:

‘Mae’r newyddion heddiw yn hynod siomedig. Roeddem ni i gyd wedi gweithio’n galed ar y llwybr i gyflwyno Banc Cambria, ond byddwn yn parhau i weithio ar lwybrau eraill a byddwn yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae hyn yn mynd yn yr hydref. Gwyddom fod yna’r angen am fancio cymunedol yng Nghymru o hyd; mae’r banciau mawr yn parhau i ffoi o’n cymunedau, gan adael canol y dref ar drai ac mae ymrwymiad gennym ni, Llywodraeth Cymru a’n partneriaid eraill i sicrhau bod hyn yn dod i ben yn ystod tymor y Senedd hon. Yn olaf, rydym yn falch o weld bod cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ac ar draws y Genedl yn parhau’n gadarn y tu ôl i’r prosiect economaidd hanfodol hwn. Mae’r angen am fanc cydfuddiannol Cymreig gymaint, os nad yn fwy, nag erioed.’

Dywedodd Gething wrth gloi ei ddatganiad:

‘Nid yw’r ffordd tuag at fancio cymunedol yng Nghymru yn un hawdd, ond nid yw ar ben. Rydym yn parhau i weithio â CCL a sefydliadau a chyrff allweddol yng Nghymru er mwyn archwilio’r holl opsiynau o safbwynt creu banc cymunedol yng Nghymru sy’n cyd-fynd â’n dyheadau, ac anghenion cymunedau a busnesau.’

Mae modd darllen y datganiad ysgrifenedig llawn gan Vaughan Gething yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This