Adroddiad New Scientist: Gwlypdiroedd Teifi dan fygythiad o lygredd dŵr afon

Mehefin 2023 | Sylw

Mae ffilm fer wedi ei gyhoeddi gan y New Scientist yn dangos fod gwlypdiroedd Teifi dan fygythiad cynyddol o lygredd dŵr afon.

Yn y ffilm mae Madeline Cuff o’r New Scientist yn cyfweld a Nathan Walton o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru sy’n dweud fod y broblem yn ymddangos fel ei fod yn deillio o wastraff amaethyddol ar ffurf slyri oddi ar dir amaethyddol ynghyd a charffosiaeth sy’n cael ei ryddhau i’r afon gan gwmnïau dŵr.

Daw y ffilm ymhlith galwadau cynyddol ar gwmnïau dŵr a llywodraethau y Deyrnas Gyfunol i wneud mwy i ddiogelu dyfodol bioamrywiaeth a sicrhau glendid yn ein hafonydd yn dilyn adroddiadau niferus ynghylch eu cyflwr gwael.

Mae modd gwylio’r ffilm yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This