Mark Drakeford yn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Mehefin 2023 | Sylw

Mae Mark Drakeford wedi amlinellu agenda deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor nesaf y Senedd. Mae’r biliau cafodd eu crybwyll ganddo yn cynnwys diwygiadau i wasanaethau bysiau, newidiadau i addysg Gymraeg a datblygiadau er mwyn newid y system dreth cyngor yng Nghymru.

Mae’r rhestr o ddeddfau bydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y tymor yn cynnwys:

Bil Bysiau sydd a’r nod o sicrhau dyfodol gwasanaethau bysiau cymunedol a gwella gwasanaethau.
Bil Diogelwch Tomenni nas Defnyddir er mwyn diogeli tomenni glo yn y dyfodol.
Bil Addysg Gymraeg bydd a’r nod o gynyddu niferoedd sydd yn meddu’r gallu i siarad yr iaith.
Bil i ddatblygu y system etholiadol.
Bil i ddiwygio’r system dreth cyngor fel ei fod yn adlewyrchu’n well newidiadau yn amodau’r farchnad.

Dywedodd Mark Drakeford:

‘Yn ystod y flwyddyn hon i ddod, bydd pwyslais parhaus ar ddiwygio er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau pobl Cymru.

Dyma raglen ddiwygio uchelgeisiol a radical, a fydd yn moderneiddio rhannau o’n system drethi a’n system etholiadol, yn sicrhau ein bod yn rhoi anghenion plant sy’n derbyn gofal uwchben elw, ac yn creu Senedd sy’n adlewyrchu Cymru heddiw.

Bydd ein diwygiadau’n trawsnewid gwasanaethau bysiau, yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynghylch sut maent yn teithio, ac yn ein helpu i symud tuag at wireddu ein huchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.’

Mae modd canfod mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad yma.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This