WWF yn chwilio am leisiau ifanc i gymryd rhan mewn prosiect

Mehefin 2023 | Sylw

Mae WWF yn chwilio am bobl ifanc rhwng 13 a 25 mlwydd oed i gymryd rhan mewn prosiect sydd a’r bwriad i ysbrydoli pobl a straeon am natur.

Bydd y rheini sy’n cael eu dethol yn cael cymryd rhan mewn cymuned adrodd straeon ac yn gallu manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau drwy weithdai ar greu newid, cynhyrchu ffilm ac adrodd stori. Pwrpas y cynllun yw hybu syniadau pobl ifanc sydd am weld newid cadarnhaol yn cael ei wneud i fyd natur. Y nod yw cael 300 o bobl ifanc o ar draws y Deyrnas Gyfunol i gymryd rhan.

Mae ceisiadau ar gyfer y cynllun yn agor ar 27 o Fehefin ac yn cau ar 10 o Orffennaf. Mae modd canfod mwy o fanylion am y prosiect ynghyd a dolen i wneud cais i gymryd rhan yma.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This