Prifysgol Aberystwyth yn derbyn nawdd o £500,000 i ymchwilio defnydd posib deallusrwydd artiffisial wrth fridio cnydau

Mehefin 2023 | Awtomeiddio ac AI, Polisi gwledig, Sylw

brown wheat in close up photography

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn £500,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i ymchwilio defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu mathau newydd o gnydau.

Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan aelodau staff yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ac yn edrych yn benodol ar y mathau o fiscanthus sydd a’r gallu gorau i wrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd. Ceith miscanthus ei ddefnyddio ar gyfer diben cynhyrchu bio-ynni ac mae’n addas i’w dyfu ar diroedd nad yw’n addas i blannu cnydau bwyd arnynt.

Dywedodd yr Athro John Doonan o Brifysgol Aberystwyth:

‘Mae’n anrhydedd fawr derbyn cymorth o’r fenter hon – dim ond nifer dethol o brifysgolion sydd wedi elwa o’r buddsoddiad. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd ein hymchwil yma yn Aberystwyth nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae angen i’r Deyrnas Gyfunol a’r byd leihau allyriadau CO2 er mwyn lliniaru newid yn yr hinsawdd, felly mae’n rhaid i ni  hefyd ddatblygu ein heconomi i fanteisio ar dechnolegau gwyrdd yn hytrach na dibynnu ar danwydd ffosil. Bydd manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial i fridio cnydau bio-ynni yn rhan sylweddol o’r ateb.’

Mae modd darllen mwy am y prosiect ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This