Adroddiad newydd gan y Landworker’s Alliance yn edrych ar fuddsoddi arian mewn cynhyrchu llysiau

Ionawr 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan y Landworker’s Alliance yn gwneud dadl o blaid cynyddu faint o lysiau syn cael eu tyfu yn y Deyrnas Gyfunol. Mae ‘Garddwriaeth Ar Draws Pedwar Gwlad’ (‘Horticulture Across Four Nations’), gafodd ei lansio yng Nghynhadledd Ffermio ‘Real’ Rhydychen (Oxford Real Farming Conference) wythnos diwethaf, yn galw i 20% o’r £2.7 Biliwn sy’n cael ei wario ar fewnforio llysiau ar hyn o bryd, i gael ei wario ar sicrhau cynnyrch o dyfwyr domestig.

Yn ôl yr adroddiad, ar hyn o bryd mae’r DG yn cynhyrchu 43% o’r llysiau sydd eu hangen arnom, ac mae yna gydnabyddiaeth a dealltwriaeth eang ar draws ffiniau gwleidyddol bod angen cynyddu’r ffigwr hwn. Mae’r adroddiad hefyd yn dadlau y byddai hyn yn sicrhau diogelwch bwyd, lleihau allyriadau carbon, er lles i iechyd y cyhoedd ac yn dod a buddiannau cymdeithasol helaeth hefyd.

Dywedodd awdur yr adroddiad Rebecca Laughtan, Cydlynydd Ymgyrchu Garddwriaeth yr LWA:

‘Mae’r amser wedi dod ar gyfer gweithredu beiddgar a phenderfynol o bob un o’r pedwar Llywodraeth datganoledig, i helpu ein sector garddwriaeth i ffynnu. Bydd yr amgylchedd, iechyd cyhoeddus, economïau lleol, a chymunedau i gyd ar eu hennill os yw gwneuthurwyr polisi yn ein helpu ni i wireddu’r weledigaeth hon.’

Gallwch ddysgu mwy am yr adroddiad, ynghyd a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This